Canvas Guides (Welsh)StudioCanllaw Studio Cyfrif StudioSut ydw i'n defnyddio Canvas Studio?

Sut ydw i'n defnyddio Canvas Studio?

Mae cyfrif Canvas Studio yn gadael i chi reoli eich holl gyfryngau Studio ar unrhyw adeg. Gallwch chi weld, rhanu neu wneud sylw ar unrhyw ffeil cyfryngau sain neu fideo sydd wedi’u llwytho i fyny.

Pan fo Studio wedi’i integreiddio â Canvas, gall defnyddwyr â rolau addysgwyr blannu cyfryngau o fewn eu cwrs hefyd.

Gan amlaf, mae cyfrifon Studio wedi’u hintegreiddio â Canvas a gellir cael mynediad ato drwy Ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan eich sefydliad. Ond, gallwch chi hefyd gael mynediad at Studio trwy wefan Studio arall (fel arfer ar gyfer gweinyddwyr). Gallwch ddysgu mwy am gael mynediad at Canvas Studio.

I ddysgu mwy am y bysellau hwylus sydd ar gael yn Canvas Studio, ewch i PDF Bysellau Hwylus Chwaraewr Cyfryngau Canvas.

Nodyn: Os nad yw eich Dewislen Crwydro'r Safle Cyfan Canvas yn cynnwys dolen i Studio, ac os nad yw eich sefydliad wedi darparu e-bost i chi fewngofnodi i wefan Studio, galllwch chi’n wastad gael mynediad at Studio trwy eicon Golygydd Cynnwys Cyfoethog Studio, er bod y swyddogaethau llawn wedi’u cyfyngu. Os ydych chi’n addysgwr, gallwch chi hefyd gael mynediad at Studio drwy’r Ddewislen Crwydro’r Cwrs.

Gweld y Bar Offer Crwydro Studio

Gweld y Ddewislen Crwydro Studio

Yn rhyngwyneb Studio, mae Studio hefyd yn cynnwys bar offer crwydro ar frig pob tudalen. Mae’r bar offer hefyd yn cynnwys eicon y Ddewislen Grwydro [1], ynghyd ag eiconau i recordio cyfryngau [2], ychwanegu cyfryngau [3], a chwilio cyfryngau[4].

Gweld Llyfrgell

Gweld Llyfrgell

Yn ddiofyn, mae Studio’n agor ar y dudalen Fy Llyfrgell (My Library), sy’n dangos yr holl gyfryngau Studio a’r casgliadau cyfryngau rydych chi wedi’u llwytho i fyny. Mae ffeiliau cyfryngau a chasgliadau’n cael eu dangos yn y drefn y cawson nhw eu llwytho i fyny neu eu creu, gan ddechrau gyda’r cyfryngau neu gasgliad a gafodd ei diweddaraf.

Nodyn: Mae tudalennau’r llyfrgell gyfryngau’n dangos hyd at 20 ffeil gyfryngau ar bob tudalen. I weld ffeiliau cyfryngau ychwanegol, defnyddiwch yr opsiynau crwydro’r dudalen ar waelod y dudalen.

Gweld Cyfryngau wedi’u Rhannu

Gweld Cyfryngau wedi’u Rhannu

Gallwch chi weld cyfryngau mae defnyddwyr eraill Studio wedi’u rhannu gyda chi yn y dudalen Wedi Rhannu â Mi (Shared with Me).

Gweld Cyfryngau Cwrs

Gweld Cyfryngau Cwrs

Os ydych chi’n addysgwr, gallwch chi weld cyfryngau sydd wedi cael eu llwytho i fyny i’ch cyrsiau. Cliciwch yr eicon Dewislen Grwydro [1]. Mae cyrsiau â chyfryngau Studio’n ymddangos yn y ddewislen Cyfryngau Cwrs (Course Media) [2]. I weld y cyfryngau Studio yn y cwrs, cliciwch ddolen enw’r cwrs [3].

Nodyn: Rhaid i gyfryngau gael eu hychwanegu at y cwrs cyn i’r cwrs ymddangos yn y ddewislen grwydro.

Chwilio Cyfryngau

Chwilio Cyfryngau

Mae’r maes chwilio yn dod o hyd i deitlau, termau disgrifio, neu dermau sy’n cyfateb â thagiau penodol. Gellir creu tagiau a disgrifiadau pan fo’r crëwr yn ychwanegu ffeil sain neu fideo ac yn golygu’r manylion.

I chwilio am ffeil sain neu fideo, cliciwch yr eicon Chwilio [1]. Yn y maes chwilio [2], rhowch enw neu bwnc y ffeil sain neu fideo. Cliciwch y fysell Enter neu Return ar eich bysellfwrdd.

Gweld Canlyniadau Chwilio

Gweld Canlyniadau Chwilio

Mae unrhyw ganlyniadau’n ymddangos yn y dudalen.

Llwytho Cyfryngau i fyny

Llwytho Cyfryngau i fyny

I lwytho cyfryngau i fyny, cliciwch y botwm Ychwanegu (Add). Gallwch chi hefyd lusgo a gollwng ffeiliau fideo neu sain i’ch tudalen Fy Llyfrgell.

Recordio Cyfryngau

Recordio Cyfryngau

I recordio cyfryngau, cliciwch y botwm Recordio (Record). Gallwch chi ddefnyddio eich gwe-gamera i recordio fideo yn Studio.

Gweld Cyfryngau

Gweld Cyfryngau

I weld y cyfryngau, hofrwch dros y ffeil sain neu fideo a chlicio ar y mân-lun cyfryngau. Mae gweld cyfryngau yn gadael i chi reoli’r holl fanylion a gosodiadau ynghyd â rheoli sylwadau a gweld dadansoddiadau defnyddwyr.