Sut ydw i’n crwydro cwrs Canvas fel arsyllwr?
Mae crwydro cwrs Canvas fel arsyllwr yn syml.
Agor Cwrs

Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Cyrsiau (Courses) [1], yna cliciwch enw’r cwrs [2].
Gweld Rhyngwyneb Canvas
Gall arsyllwyr weld y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, y ddewislen Crwydro'r Cwrs, y ddewislen Crwydro Briwsion Bara, y Bar Ochr a’r ddolen Help.
- Mae’r ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan yn eich helpu chi i gyrraedd lle rydych chi am ei gyrraedd yn eich holl gyrsiau Canvas.
- Mae’r ddewislen Crwydro'r Cwrs yn eich helpu chi i gyrraedd lle rydych chi am ei gyrraedd yn eich cwrs Canvas [2].
- Mae’r ddewislen Crwydro Briwsion Bara yn dangos i le rydych chi wedi crwydro mewn cwrs ac yn cynnig ffordd gyflym a hawdd o symud yn ôl [3].
- Ar y cyfan, bydd y Bar ochr yn wag i Arsyllwyr, ond bydd yn ddefnyddiol pan ddaw hi’n amser golygu Tudalen yn y cwrs [4].
- Mae’r ddolen Help yn bwysig iawn. Pan fydd arnoch angen help gan eich addysgwr neu gan Dîm Cymorth Canvas, cliciwch y ddolen Help [5].
Mae dolenni y ddewislen Crwydro'r Cwrs sydd ar ochr chwith eich sgrin yn eich helpu chi i gyrraedd lle rydych chi am ei gyrraedd yn Canvas. Fel Arsyllwr, byddwch chi’n gweld hyd at 11 dolen. Maent yn cynnwys:
- Cyhoeddiadau
- Aseiniadau
- Trafodaethau
- Tudalennau
- Ffeiliau
- Maes Llafur
- Deilliannau
- Cwisiau
- Modiwlau
- Cynadleddau
- Cydweithrediadau
Os byddwch chi’n cael trafferth yn Canvas unrhyw dro a bod arnoch angen siarad â’r Addysgwr am yr hyn sy’n eich poeni, defnyddiwch y termau hyn a bydd yr addysgwr yn gwybod yn union beth rydych chi’n ei olygu.