Canvas Guides (Welsh)Canllawiau CanvasCanllaw Arsyllwyr Canvas FfeiliauSut ydw i’n gweld fy ffeiliau defnyddiwr fel arsyllwr?

Sut ydw i’n gweld fy ffeiliau defnyddiwr fel arsyllwr?

Mae ffeiliau personol yn cynnwys lluniau proffil a ffeiliau eraill sydd wedi'u llwytho i fyny i’ch storfa ffeiliau Canvas personol. Yn ddiofyn, mae gan bob defnyddiwr 50 MB o le storio yn Canvas.

Agor Ffeiliau

Agor Ffeiliau

Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan (Global Navigation), cliciwch y ddolen Cyfrif (Account) [1], a chlicio'r ddolen Ffeiliau (Files) [2].

Gweld Ffeiliau Defnyddiwr a Llwytho Ffeil i Fyny

Gweld Ffeiliau Defnyddiwr a Llwytho Ffeil i Fyny

Gallwch weld eich ffeiliau. I ychwanegu ffeil, cliciwch y botwm Llwytho i fyny (Upload).

Dewis Ffeil o’r Cyfrifiadur

Dewis Ffeil o’r Cyfrifiadur

Porwch i chwilio am ffeil o’ch cyfrifiadur a chlicio’r botwm Agor (Open) .

Agor Ffeil

Agor Ffeil

Cliciwch enw’r ffeil.

Gweld Rhagolwg o Ffeil

Gweld Rhagolwg o Ffeil

Mae’r rhagolwg yn dangos y ffeil a manylion y ffeil, yn ogystal â dolen i lwytho’r ffeil i lawr.

Gallwch chi sgrolio drwy'r ddogfen, nesáu a phellhau, a gweld y ddogfen mewn sgrin lawn.

Botwm Gweld

Botwm Gweld

Gallwch chi weld rhagolwg o ffeil hefyd drwy glicio’r botwm Gweld (View).

Llwytho Ffeil i Lawr

Llwytho Ffeil i Lawr

Cliciwch yr eicon Opsiynau (Options) [1], a chlicio’r ddolen Llwytho i lawr (Download) [2].

Creu Ffolder

Creu Ffolder

I greu ffolder gwag, cliciwch y botwm Ychwanegu Ffolder (Add Folder) .