Sut ydw i’n rheoli nodweddion newydd yn fy nghyfrif defnyddiwr fel myfyriwr?
Mae Canvas yn creu nodweddion newydd yn barhaus er mwyn gwella profiad defnyddwyr. Bydd y mwyafrif o’r gwelliannau yn cael eu cyflwyno fel rhan o’n cylch rhyddhau rheolaidd. Fodd bynnag, gall rhai nodweddion effeithio ar eich rhyngweithio personol â Canvas.
Mae’r wers hon yn rhoi trosolwg o sut mae rheoli opsiynau nodweddion ar lefel defnyddiwr ar gyfer eich cyfrif defnyddiwr. I weld opsiynau nodweddion penodol sydd ar gael yn Canvas, ewch i’r wers nodweddion cyfrif defnyddiwr.
Agor Gosodiadau Defnyddiwr

Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Cyfrif (Account) [1], yna cliciwch y ddolen Gosodiadau (Settings) [2].
Gweld Opsiynau Nodweddion

Bydd nodweddion sydd ar gael yn ymddangos yn yr adran Opsiynau Nodweddion.
Gweld Mathau o Nodweddion

Mae pob nodwedd yn cynnwys disgrifiad o'r nodwedd. I ehangu blwch y nodwedd a dangos y disgrifiad, cliciwch yr eicon saeth.
Gweld Tagiau Nodweddion

Mae tagiau nodweddion yn helpu i adnabod cyflwr pob nodwedd. Mae nodwedd heb label [1] yn golygu bod y nodwedd yn sefydlog ac yn barod i’w defnyddio yn eich amgylchedd cynhyrchu. Efallai y bydd nodweddion hefyd yn cynnwys tag beta [2], sy’n golygu bod y nodwedd ar gael i’w defnyddio yn eich amgylchedd cynhyrchu ond ei bod yn parhau i gael ei phrofi ar gyfer defnyddioldeb a hygyrchedd. Gall galluogi nodwedd beta achosi ymddygiad anfwriadol yn eich cyfrif Canvas.
Gweld Mynediad at Nodwedd

Os bydd nodwedd yn cael ei dangos, gallwch ddewis toglo'r nodwedd ymlaen neu i ffwrdd.
Ar waith [1]: Cliciwch yr adnodd toglo i roi’r nodwedd hon ar waith yn eich cyfrif defnyddiwr. Bydd yr adnodd toglo yn troi’n wyrdd ac yn dangos tic.
Wedi diffodd [2]: Yn ddiofyn, bydd y nodwedd wedi’i diffodd. Gadewch y botwm hwn heb ei ddewis os nad ydych chi eisiau galluogi’r nodwedd hon ar gyfer eich cyfrif defnyddiwr.