Sut ydw i’n defnyddio'r dudalen Pobl (People) mewn cwrs fel myfyriwr?
Mae Pobl (People) yn dangos yr holl ddefnyddwyr sydd wedi ymrestru ar y cwrs.
Nodyn: Efallai bod y golofn Adran wedi’i chuddio ar eich cwrs.
Agor yr adnodd Pobl

Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Pobl (People).
Gweld yr adnodd Pobl

Yn yr adnodd Pobl, gall myfyrwyr wneud y canlynol:
- Gweld yr holl ddefnyddwyr sy'n cymryd rhan yn y cwrs, gan gynnwys y rhai sy’n aros i ymrestru ar y cwrs,
- Defnyddio’r bar chwilio i ddod o hyd i unigolyn penodol.
- Defnyddio’r gwymplen i hidlo defnyddwyr yn ôl rôl. Bydd yr hidlydd hefyd yn dangos sawl defnyddiwr sydd ym mhob math o rôl [ee myfyriwr, cynorthwyydd dysgu]
- Defnyddiwch y gwymplen Opsiynau (Options) i weld grwpiau defnyddwyr neu wasanaethau wedi'u cofrestru yn y cwrs.
Chwilio am Ddefnyddwyr
I chwilio am ddefnyddiwr penodol, dechreuwch deipio enw’r defnyddiwr yn y maes chwilio [1]. Bydd canlyniadau posib yn cael eu rhestru isod [2].
Hidlo Defnyddwyr yn ôl rôl

Defnyddiwch y gwymplen Rolau (Roles) i weld sawl defnyddiwr sydd ym mhob math o rôl.
Gweld Defnyddiwr

I ddysgu mwy am ddefnyddiwr penodol ar gwrs, cliciwch enw’r defnyddiwr.
Mae clicio eich enw’ch hun yn rhoi mynediad at eich graddau. Efallai y byddwch chi hefyd yn gallu gweld dadansoddiad o’ch cwrs eich hun.
Gweld Manylion Defnyddiwr
Gallwch weld unrhyw fanylion y mae’r defnyddiwr wedi'u cynnwys. Gallwch hefyd anfon neges yn uniongyrchol at y defnyddiwr.
Os yw eich sefydliad yn gallu delio â’r nodwedd Proffiliau (Profiles), bydd y dudalen yn ymddangos ychydig yn wahanol. Gallwch weld manylion proffil y defnyddiwr, os oes rhai ar gael.
Riportio Llun Proffil

Os yw eich sefydliad yn gallu delio â lluniau proffil a bod llun proffil y defnyddiwr yn amhriodol, gallwch riportio’r llun i’ch sefydliad drwy glicio’r ddolen Riportio llun amhriodol (Report inappropriate picture) [1].
Os yw eich sefydliad yn gallu delio â’r nodwedd Proffiliau (Profiles), yna gallwch riportio’r ddelwedd drwy hofran dros y llun a chlicio’r eicon Fflagio (Flag)[2].
Gweld Grwpiau Defnyddwyr

I weld Grwpiau Defnyddwyr, cliciwch y tab Grwpiau (Groups).

Gallwch hefyd gael mynediad at eich grwpiau defnyddwyr yn y ddewislen Gosodiadau. Cliciwch yr eicon Opsiynau (Options)[1], a chliciwch y ddolen Gweld Grwpiau Defnyddwyr (View User Groups) [2].
Gweld Gwasanaethau wedi'u Cofrestru

I weld y gwasanaethau sydd wedi'u cofrestru ar gyfer pob person ar y cwrs, cliciwch yr eicon Opsiynau (Options) [1], a chliciwch y ddolen Gweld Gwasanaethau wedi'u Cofrestru (View Registered Services) [2]. Os oes unigolyn wedi cofrestru cyfrif cyfryngau cymdeithasol yn Canvas, gallwch weld y gwasanaeth hwnnw wedi’i restru a chysylltu â’r unigolyn drwy unrhyw safle cyfryngau cymdeithasol maen nhw wedi’u cofrestru. Gallwch ddysgu sut i gysylltu â gwasanaethau ar y we yn Canvas.