Canvas Guides (cy)Canllaw Myfyrwyr Canvas CalendrSut ydw i’n ychwanegu digwyddiad at fy nghalendr fel myfyriwr?

Sut ydw i’n ychwanegu digwyddiad at fy nghalendr fel myfyriwr?

Gallwch ychwanegu nodyn atgoffa personol at eich Calendr eich hun i’ch atgoffa o ddigwyddiad sydd ar y gweill.

Agor Calendr

Agor Calendr

Yn y ddewislen Crwydro’r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Calendr (Calendar).

Ychwanegu Digwyddiad

Cliciwch unrhyw ddyddiad ar y calendr i ychwanegu digwyddiad [1]. Neu, cliciwch y saethau drws nesaf i enw’r mis i fynd i fis gwahanol [2] a dewis dyddiad.

Os nad ydych chi am ddod o hyd i'r dyddiad eich hun, gallwch glicio’r eicon Ychwanegu [3].

Ychwanegu Manylion Digwyddiad

Ychwanegu Manylion Digwyddiad

Rhowch deitl i’r digwyddiad [1].

Yn dibynnu ar sut y gwnaethoch chi ychwanegu eich digwyddiad, mae’n bosib y bydd y dyddiad wedi cael ei lenwi i chi. Os nad yw wedi’i lenwi, rhowch ddyddiad yn y maes dyddiad [2].

Mae’n bosib y bydd amseroedd y calendr wedi cael eu llenwi i chi hefyd yn y meysydd O (From) [3]. Golygwch neu rhowch amser dechrau a gorffen ar gyfer eich digwyddiad. I greu digwyddiad diwrnod cyfan, gadewch y meysydd O (From) yn wag fel nad oes amser dechrau a gorffen ar gyfer eich digwyddiad.

Os oes angen lleoliad, rhowch leoliad ar gyfer y digwyddiad [4].

Cyflwyno Digwyddiad

Cyflwyno Digwyddiad

I ychwanegu mwy o fanylion at eich digwyddiad, cliciwch y botwm Mwy o Opsiynau (More Options) [1]. Gallwch ddefnyddio'r Golygydd Cynnwys Cyfoethog i ychwanegu disgrifiad neu ddolenni adnoddau, ychwanegu lleoliad cyfeiriad, a dyblygu'r digwyddiad.

Fel arall, cliciwch y botwm Cyflwyno (Submit) [2].