Canvas Guides (cy)Canllaw Myfyrwyr Canvas AseiniadauSut ydw i'n cyflwyno aseiniad ar ran grŵp?

Sut ydw i'n cyflwyno aseiniad ar ran grŵp?

Mae aseiniad grŵp yn ffordd i addysgwyr ganiatáu i fyfyrwyr weithio gyda’i gilydd ar aseiniad a'i gyflwyno fel grŵp. Dim ond un aelod o'r grŵp fydd angen cyflwyno'r aseiniad ar ran y grŵp.

Bydd unrhyw atodiadau sy’n cael eu hychwanegu fel rhan o gyflwyno'r aseiniad wedi'i raddio yn cael eu copïo hefyd i ffeiliau eich grŵp ond fyddan nhw ddim yn cael eu cyfrif yn erbyn eich cwota defnyddiwr. Ond, ar ôl llwytho'r ffeil i fyny fel cyflwyniad, does dim modd i chi ddileu’r ffeil. Os byddwch chi'n llwytho ffeil i fyny o'ch cyfrifiadur, caiff y ffeil ei storio yn ffolder Cyflwyniadau’r grŵp. Ond, os byddwch chi'n cyflwyno ffeil sydd wedi cael ei llwytho i fyny o’r blaen i ffeiliau eich grŵp, caiff y ffeil ei storio yn eich ffolder Cyflwyniadau.

Nodiadau:

  • Os ydych chi am gyflwyno ffeil sydd wedi cael ei llwytho i fyny o’r blaen, rhaid i’r ffeil fod yn eich ffeiliau defnyddiwr yn barod. Does dim modd cael mynediad at unrhyw ffeiliau sydd wedi cael eu llwytho i fyny i ffeiliau eich grŵp drwy aseiniadau sydd wedi’u cyflwyno. Gwybodaeth am sut mae symud ffeiliau grŵp i ffeiliau defnyddiwr.
  • Os yw wedi’i alluogi, bydd Canvas yn chwarae animeiddiad ddathlu pan fyddwch chi’n cyflwyno aseiniad ar amser. Ond, os byddai’n well gennych chi, gallwch chi analluogi’n opsiwn nodwedd hwn yn eich gosodiadau defnyddiwr.

Agor Aseiniadau

Agor Aseiniadau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Aseiniadau (Assignments).

Agor Aseiniad

Agor Aseiniad

Cliciwch enw’r aseiniad.

Gweld Aseiniad Grŵp

Gweld Aseiniad Grŵp

Cliciwch y botwm Cyflwyno Aseiniad (Submit Assignment).

Gweld Hysbysiad am Radd Derfynol

Gweld Hysbysiad am Radd Derfynol

Efallai y bydd baner yn ymddangos uwchben eich aseiniad i ddangos bod eich addysgwr wedi tynnu’r aseiniad grŵp o gyfrifiadau'r radd gyflawn. Fodd bynnag, dydy’r gosodiad hwn ddim yn effeithio ar aseiniadau sy’n cael eu cyflwyno.

Llwytho Ffeil i Fyny

Llwytho Ffeil i Fyny

I lwytho ffeil i fyny o’ch cyfrifiadur, cliciwch y botwm Dewis Ffeil (Choose File) [1]. Pan fydd ffenestr y ffeil yn ymddangos, chwiliwch am y ffeil a chlicio enw’r ffeil. Ar waelod y ffenestr, cliciwch y botwm Dewis (Choose) neu Pori (Browse) (yn dibynnu ar eich porwr).

I lwytho ffeil i fyny rydych chi wedi’i llwytho i fyny i Canvas yn barod, cliciwch y ddolen Cliciwch yma i ddod o hyd i ffeil (Click here to find a file)... [2]. Bydd rhestr y ffeil yn ehangu. Cliciwch enw’r ffeil.

Gallwch ychwanegu sylw at yr aseiniad grŵp sy’n cael ei gyflwyno [3]. Bydd sylwadau ar aseiniadau grŵp nad ydynt wedi'u graddio yn unigol yn cael eu hanfon i'r grŵp cyfan.

Os oes gennych chi fynediad i lwytho ffeil i fyny o Google Drive, gallwch gyflwyno ffeil Google drwy glicio'r tab Google Drive neu Google Doc [4].

Nodyn: Os ydych chi am gyflwyno ffeil sydd wedi cael ei llwytho i fyny o’r blaen, rhaid i’r ffeil fod yn eich ffeiliau defnyddiwr yn barod. Does dim modd cael mynediad at ffeiliau grŵp drwy aseiniadau sydd wedi’u cyflwyno.

Dewis Opsiwn Sylw

Dewis Opsiwn Sylw

Os yw eich aseiniad sydd wedi'i gyflwyno yn cynnwys opsiynau rhoi sylwadau, bydd pob aelod o’ch grŵp yn cael ei raddio'n unigol. Os ydych chi am roi sylw, teipiwch eich sylw yn y blwch sylwadau [1].

I anfon eich sylw at eich addysgwr, dewiswch Anfon sylw at addysgwr yn unig (Send comment to instructor only) [2].

I anfon eich sylw at eich addysgwr a holl aelodau eich grŵp, dewiswch Anfon sylw i'r grŵp cyfan (Send comment to the whole group) [3].

Cyflwyno Aseiniad

Cyflwyno Aseiniad

Cliciwch y botwm Cyflwyno Aseiniad (Submit Assignment).

Nodyn: Mae ffeiliau mawr sy’n cael eu cyflwyno’n defnyddio’r tab Llwytho Ffeil i Fyny yn dangos dangosydd statws cyflwyno.

Gweld Cyflwyniad

Gweld Cyflwyniad

Ar ôl i chi gyflwyno'r aseiniad, gallwch weld eich bod wedi'i roi. Gallwch gyflwyno'r aseiniad eto tan yr amser a’r dyddiad erbyn.