Sut ydw i’n ychwanegu cyhoeddiad mewn grŵp?
Fel myfyriwr, gallwch wneud cyhoeddiad mewn grŵp.
Agor Cyhoeddiadau

Yn y ddewislen Crwydro Grwpiau, cliciwch y ddolen Cyhoeddiadau.
Ychwanegu Cyhoeddiad ar Dudalen Hafan y Grŵp
Gallwch ychwanegu cyhoeddiad hefyd ar Dudalen Hafan y Grŵp drwy glicio’r botwm Ychwanegu Cyhoeddiad Newydd (Add New Announcement).
Ychwanegu Cyhoeddiad

Cliciwch y botwm Ychwanegu Cyhoeddiad (Add Announcement).
Creu Cyhoeddiad
Ychwanegwch gynnwys i’ch cyhoeddiad. Gallwch ychwanegu teitl [1], ysgrifennu neges [2], ac ychwanegu gwybodaeth o'r Dewisydd Cynnwys (Content Selector) [3].
Nodyn: Mae’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog yn cynnwys cyfrif geiriau o dan gornel dde isaf y blwch testun.
Cadw Cyhoeddiad

Cliciwch y botwm Cadw.
Gweld Cyhoeddiad

Gallwch weld y cyhoeddiad ar y dudalen cyhoeddiadau.