Canvas Guides (Welsh)Canllaw Myfyrwyr Canvas Golygydd Cynnwys CyfoethogSut ydw i’n creu hyperddolenni i URL Allanol yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog fel myfyriwr?

Sut ydw i’n creu hyperddolenni i URL Allanol yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog fel myfyriwr?

Gan ddefnyddio’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog, gallwch chi greu hyperddolenni i adnoddau allanol. Mae sawl nodwedd yn Canvas yn cefnogi’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog, gan gynnwys Cyhoeddiadau, Aseiniadau, Trafodaethau, Tudalennau, a Chwisiau.

Agor Golygydd Cynnwys Cyfoethog

Agor Golygydd Cynnwys Cyfoethog

Agorwch y Golygydd Cynnwys Cyfoethog wrth ddefnyddio un o nodweddion Canvas sy’n gallu delio â’r Golygydd.

Nodyn: Mae’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog yn cefnogi bysellau hwylus. I weld y ddewislen Bysellau Hwylus, cliciwch yr eicon Bysellfwrdd neu bwyso ALT+F8 (Bysellfwrdd PC) neu ALT+FN+F8 (Bysellfwrdd Mac).

Creu Hyperddolen o’r Bar Offer

I fewnosod dolen o’r bar offer, cliciwch yr eicon Dolen (Link) [1].

Gallwch chi hefyd fewnosod dolen allanol o’r ddewislen opsiynau dolen. I weld opsiynau dolen ychwanegol, cliciwch y saeth Opsiynau Dolen (Link Options) [2]. Yna dewiswch yr opsiwn Dolenni Allanol (External Links) [3].

Nodyn: I weld yr eicon Dolen, efallai y bydd angen i chi glicio’r eicon Opsiynau (Options) [4].

Creu Hyperddolen o’r Bar Dewislen

Cliciwch y ddolen Mewnosod (Insert) [1]. Crwydrwch i weld yr opsiynau Dolen (Link) [2], a dewiswch yr opsiwn Dolenni Allanol (External Links) [3].

Mewnosod Dolen

Rhowch y testun ar gyfer eich hyperddolen yn y maes Testun (Text) [1].

Gludwch neu teipiwch yr URL ar gyfer eich hyperddolen yn y maes Dolen (Link) [2].

Cliciwch y botwm Wedi gorffen (Done) [2].

Nodiadau:

  • Bydd y testun yn fflachio cyn troi’n hyperddolen.
  • Mae hyperddolenni allanol yn agor yn awtomatig mewn tab porwr newydd pan fyddwch chi’n clicio arnyn nhw.

Creu Dolen gan ddefnyddio Bysellau Hwylus

Creu Dolen gan ddefnyddio Bysellau Hwylus

Neu, gallwch chi greu hyperddolenni allanol drwy ddefnyddio bysellau hwylus. Ar ôl ychwanegu cynnwys yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog, dewiswch y testun ar gyfer eich hyperddolen

Yna pwyswch Cmd+K (bysellfwrdd Mac) neu Ctrl+K (bysellfwrdd PC).

Mewnosod Dolen

Gludwch neu teipiwch yr URL ar gyfer yr hyperddolen yn y maes URL [1], yna cliciwch y botwm Cadw (Save) [2].

Nodyn:

  • Bydd y testun yn fflachio cyn troi’n hyperddolen.
  • Mae hyperddolenni allanol yn agor yn awtomatig mewn tab porwr newydd pan fyddwch chi’n clicio arnyn nhw.
Gweld Hyperddolen

Gweld y hyperddolen yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog.

Cadw Newidiadau

Cadw Newidiadau

Cliciwch y botwm Cadw.

Nodyn: Pan fyddwch yn defnyddio’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog yn y nodwedd Trafodaethau, efallai y bydd y botwm Cadw (Save) yn ymddangos fel botwm Postio Ymateb (Post Reply).

Gweld Cynnwys

Gweld Cynnwys

Gweld yr hyperddolen yn eich cynnwys.

Nodyn: Mae hyperddolenni allanol yn agor yn awtomatig mewn tab porwr newydd pan fyddwch chi’n clicio arnyn nhw.