Sut ydw i’n creu cwis gyda grŵp cwestiynau er mwyn trefnu cwestiynau cwis ar hap?
Gallwch greu cwis drwy ddefnyddio grŵp cwestiynau. Mae grwpiau cwestiynau'n eich galluogi chi i osod nifer o gwestiynau mewn grŵp i’r myfyrwyr eu hateb. Gallwch ddewis nifer y cwestiynau y dylid eu hateb o’r grŵp yn ogystal â dewis faint o bwyntiau sydd i gael eu neilltuo ar gyfer pob cwestiwn. Pan fyddwch chi’n creu grŵp cwestiynau, bydd y cwestiynau’n cael eu trefnu ar hap mewn cwis.
Mae sawl ffordd y gallwch chi ychwanegu cwestiynau at eich grŵp cwestiynau:
- Cysylltu â banc cwestiynau i gynnwys yr holl gwestiynau mewn banc cwestiynau
- Ychwanegu cwestiwn unigol i greu eich cwestiynau eich hun o’r dechrau
- Dod o hyd i gwestiynau i gynnwys cwestiynau penodol o fanc cwestiynau
Nodyn: Os ydych chi am i'ch cwestiynau ymddangos mewn trefn benodol, peidiwch â gosod cwestiynau cwis mewn grŵp cwestiynau.
Agor Cwisiau

Yn y ddewislen Crwydro'r Cwrs (Course Navigation), cliciwch y ddolen Cwisiau (Quizzes).
Ychwanegu Cwis

Cliciwch y botwm Ychwanegu Cwis.
Dewis Peiriant Cwis

Os oes gan eich cwrs New Quizzes wedi’u galluogi, rhaid i chi ddewis peiriant cwis.
I greu cwis clasurol, cliciwch yr opsiwn Classic Quizzes [1].
I ddewis New Quizzes, cliciwch yr opsiwn New Quizzes [2].
I gadw eich dewis o beiriant cwis ar gyfer y cwrs hwn, cliciwch y blwch ticio Cofio fy newis ar gyfer y cwrs hwn (Remember my choice for this course) [3].
Yna cliciwch y botwm Cyflwyno (Submit) [4].
Nodyn:
- Dysgu mwy am greu cwis yn defnyddio New Quizzes.
- Gallwch chi ailosod eich dewis o beiriant cwis o’r ddewislen Opsiynau Cwis ar unrhyw adeg.
Golygu Manylion Cwis
Yn y tab Manylion, rhowch enw eich cwis [1]. Yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog [2], cyflwynwch eich cwis gyda delweddau, fideo, samplau o hafaliadau mathemategol, neu destun wedi’i fformatio. Gallwch hyd yn oed ddefnyddio’r adnodd gwneud sylw ar gyfryngau i recordio rhagarweiniad i'r cwis.
Llenwch weddill manylion y cwis [3].
Ychwanegu Grŵp Cwestiynau Newydd

Cliciwch y tab Cwestiynau [1]. Cliciwch y botwm Grŵp Cwestiynau Newydd [2].
Creu Manylion Grŵp

Rhowch enw i’ch grŵp cwestiynau [1]. Nid yw grwpiau cwestiynau cwis yn cael eu henwi’n awtomatig ar gyfer addysgwyr. I ychwanegu enw personol i grŵp cwestiynau eich cwis, rhowch yr enw ym maes testun y grŵp. Gall enwau personol eich helpu chi i ganfod grwpiau cwestiynau’r cwis yn haws.
Ni waeth beth yw enw’r grŵp cwestiynau, bydd y myfyrwyr bob amser yn gweld cwestiynau’r cwis mewn trefn rifol (hy Cwestiwn 1, Cwestiwn 2).
Penderfynwch faint o gwestiynau rydych chi am i Canvas eu dewis ar hap o’r grŵp [2] a nifer y pwyntiau sy'n cael eu neilltuo ar gyfer pob cwestiwn [3].
Nodyn: Mae gwerthoedd pwynt cwis yn gallu delio â hyd at ddau le degol. Os byddwch chi’n rhoi mwy na dau le degol, bydd gwerth y pwynt yn cael ei dalgrynnu i’r canfed agosaf.
Cysylltu â Banc Cwestiynau

Os ydych chi am gysylltu banc cwestiynau â'r grŵp cwestiynau, cliciwch y ddolen Cysylltu â Banc Cwestiynau (Link to a Question Bank).
Nodyn: Os ydych chi’n gofyn i grŵp cwestiynau ddewis cwestiynau ar hap o’r banc cwestiynau, ni fydd y banc cwestiynau na'r cwestiynau’n cael eu cynnwys ym mhrosesau allgludo'r cwis. Bydd ffeil QTI yn llwytho manylion y cwis hwn i lawr, ond ni fydd unrhyw gwestiynau’n cael eu cynnwys.
Creu Grŵp

Cliciwch y botwm Creu Grŵp (Create Group).
Ychwanegu Cwestiwn Unigol at Grŵp

I ychwanegu cwestiynau unigol at y grŵp, cliciwch yr eicon Ychwanegu.
Dod o Hyd i Gwestiynau o Fanc Cwestiynau

Hefyd, gallwch ddod o hyd i gwestiynau o fanc cwestiynau sydd eisoes yn bodoli a’u hychwangu at y grŵp cwestiynau.
Addasu Grŵp Cwestiynau

I newid nifer y cwestiynau a fydd yn cael eu dewis o’r grŵp neu i newid y pwyntiau sydd wedi’u neilltuo, cliciwch yr eicon Golygu [1]. I ddileu’r grŵp cwestiynau, cliciwch yr eicon Dileu [2].
Cadw Cwis

Cliciwch y botwm Cadw i gadw eich gwaith ac i weld rhagolwg o’r cwis.
Nodyn: Ni ddylech gyhoeddi eich cwis nes eich bod wedi’i gwblhau’n derfynol. Os ydych chi’n barod i gyhoeddi eich cwis a’i ddarparu i fyfyrwyr, cliciwch y botwm Cadw a Chyhoeddi.
Gweld Rhagolwg a Chyhoeddi Cwis

Cliciwch y botwm Rhagolwg [1] i weld yr hyn fydd y myfyrwyr yn ei weld wrth wneud y cwis. Os ydych chi’n fodlon ar y rhagolwg o’r cwis, cliciwch y botwm Cyhoeddi (Publish) [2].
Nodyn: Er y gallwch wneud newidiadau i’r cwis ar ôl ei gyhoeddi, ni fydd y myfyrwyr sydd eisoes wedi agor neu gwblhau’r cwis yn gweld y newidiadau, a gallai hynny effeithio ar eu graddau.