Sut ydw i’n creu tudalen newydd mewn cwrs?
Fel addysgwr, gallwch greu tudalen newydd i'w hychwanegu at eich cwrs.
Wrth greu tudalennau, gallwch osod hawliau tudalen ynglŷn â phwy sy’n cael golygu’r dudalen: addysgwyr (athrawon), addysgwyr a myfyrwyr, neu unrhyw un. Hefyd, gallwch ychwanegu tudalen at restrau Tasgau i'w Gwneud myfyrwyr.
Agor Tudalennau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Tudalennau (Pages).
Gweld Tudalennau

Mae’r adran Tudalennau (Pages) wedi’i dylunio i agor i dudalen flaen y cwrs, os oes tudalen flaen wedi cael ei dewis. I ddewis tudalen o’r mynegai Tudalennau (Pages), cliciwch y botwm Gweld Pob Tudalen (View All Pages).
Ychwanegu Tudalen

Cliciwch y botwm Ychwanegu Tudalen (Add Page).
Ychwanegu Cynnwys
Rhowch enw i’ch tudalen [1].
Defnyddiwch y Golygydd Cynnwys Cyfoethog [2] i greu cynnwys ar gyfer eich tudalen. Mae’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog yn cynnwys cyfrif geiriau o dan gornel dde isaf y blwch testun.
Hefyd, gallwch ychwanegu dolenni, ffeiliau a delweddau at y dudalen gan ddefnyddio'r dewisydd cynnwys [3].
Golygu Gosodiadau Tudalen

Gallwch benderfynu pwy sy'n cael golygu’r dudalen drwy ddewis y gwymplen Defnyddwyr sy’n cael golygu’r dudalen hon (Users allowed to edit this page) [1]. Mae’r opsiynau yn cynnwys dim ond athrawon, athrawon a myfyrwyr, neu unrhyw un. Dydy’r opsiwn Unrhyw un ddim ond yn berthnasol i ddefnyddwyr sydd wedi ymrestru ar y cwrs.
Gallwch chi ychwanegu'r dudalen at y tasgau sydd gan fyfyriwr i’w gwneud trwy ddewis y blwch Ychwanegu at y tasgau sydd gan fyfyriwr i’w gwneud (Add to student to-do) [2]. Pan fyddwch chi'n ychwanegu tudalen at y tasgau sydd gan fyfyriwr i’w gwneud, mae'r tasgau i'w gwneud i'w gweld yn rhestr tasgau i'w gwneud y myfyriwr ynghyd ag yng nghalendr y cwrs ac yn Rhestr tasgau i’w gwneud bar ochr cwrs y myfyriwr.
Hefyd, gallwch roi gwybod i ddefnyddwyr bod cynnwys wedi newid drwy ddewis y blwch ticio Rhoi gwybod i ddefnyddwyr bod y cynnwys hwn wedi newid (Notify users that this content has changed) [3].
Cadw a Chyhoeddi

Os ydych chi’n barod i gyhoeddi eich tudalen, cliciwch y botwm Cadw a Chyhoeddi (Save & Publish) [1]. Os ydych chi am greu drafft o’ch tudalen, cliciwch y botwm Cadw (Save) [2].
Nodyn: Os byddwch chi’n ceisio gadael tudalen heb ei chadw, byddwch yn cynhyrchu rhybudd naid.

Pan fydd eich tudalen yn cael ei chadw ar ffurf drafft, gallwch fynd yn ôl i’r dudalen a'i chyhoeddi ar unrhyw adeg drwy glicio’r botwm Cyhoeddi (Publish). Bydd y botwm yn newid o lwyd i wyrdd [2]
Gweld Tudalen

Gweld y dudalen rydych chi wedi'i chreu.