Sut ydw i’n ychwanegu set grwpiau mewn cwrs?
Mae setiau grwpiau yn cadw’r gwahanol grwpiau mewn cwrs. Cyn creu set grwpiau newydd, efallai yr hoffech chi weld y setiau grwpiau sy'n bodoli. Hefyd, gallwch glonio set grwpiau sy'n bodoli. Hefyd, gallwch olygu neu ddileu set grwpiau sy'n bodoli.
Ar ôl i chi greu set grwpiau, gallwch greu grwpiau eich hun yn y set neu greu grwpiau’n awtomatig yn y set. Neu, gallwch chi greu a neilltuo myfyrwyr i grwpiau drwy fewngludo ffeil CSV.
Nodyn: Mae Canvas yn gadael i chi greu hyd at 200 o grwpiau.
Agor yr adnodd Pobl

Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Pobl (People).
Ychwanegu Set Grwpiau

Cliciwch y botwm Ychwanegu Set Grwpiau (Add Group Set).
Cadw Set Grwpiau

Rhowch enw i’r grŵp newydd drwy deipio’r enw yn y maes Enw’r Set Grwpiau (Group Set Name) [1].
Gallwch ganiatáu’r nodwedd cofrestru eich hun drwy roi tic yn y blwch Caniatáu’r nodwedd cofrestru eich hun (Allow self sign-up) [2].
Gallwch chi greu grwpiau’n awtomatig drwy rannu’r myfyrwyr i grwpiau cyfartal neu ddewis nifer y myfyrwyr ym mhob grŵp.
I rannu’r myfyrwyr i nifer o grwpiau cyfartal cliciwch y botwm radio Rhannu myfyrwyr i [rhif] grŵp (Split students into [number] groups) [3]. Yna teipiwch nifer y grwpiau yn y blwch deialog.
I greu grwpiau gyfer nifer penodol o fyfyrwyr, cliciwch Rhannu myfyrwyr i grwpiau gyfer [rhif] myfyriwr ym mhob grŵp (Split students into groups with [number] students per group) [4]. Yna rhowch nifer y myfyrwyr ym mhob grŵp yn y blwch deialog.
I greu grwpiau eich hun neu greu grwpiau yn defnyddio ffeil CSV, cliciwch y botwm radio Rydw i am greu grwpiau fy hunI'll create groups manually (I'll create groups manually) [5].
Cliciwch y botwm Cadw (Save) [6].
Nodiadau:
- Ac eithrio pan fyddwch chi’n creu grwpiau eich hun, gallwch bennu arweinydd grŵp myfyrwyr yn awtomatig.
- Mae’r opsiwn Mynnu bod aelodau’r grŵp yn yr un adran ar gael wrth gofrestru eich hun ac wrth gofrestru’n awtomatig.
- Dim ond hyd at 200 o grwpiau y gall Canvas eu creu ar gyfer set grwpiau sydd wedi'i neilltuo’n awtomatig. Os byddwch chi’n gofyn i Canvas greu mwy na 200 grŵp, dim ond 200 y bydd yn ei greu.