Sut ydw i’n defnyddio’r rhyngwyneb Cynadleddau fel safonwr neu gyflwynydd?
Pan fyddwch chi wedi dechrau cynhadledd neu wedi ymuno â chynhadledd fel safonwr, gallwch ddefnyddio’r rhyngwyneb Cynadleddau i safoni a chymryd rhan yn y gynhadledd. Bydd unrhyw ddefnyddiwr sy'n dechrau cynhadledd neu addysgwr sy'n ymuno â'r gynhadledd yn cael hawliau safonwr. Mae safonwyr yn gallu israddio safonwyr eraill i fod yn wylwyr.
Mae'r rhyngwyneb Cynadleddau yn cael ei ddangos gan system gynadledda HTML5 BigBlueButton. Mae'r canllaw hwn yn rhoi trosolwg syml o'r rhyngwyneb Cynadleddau. I ddysgu mwy am nodweddion penodol, edrychwch ar y dogfennau defnyddiwr HTML5 BigBlueButton.
Mae'n syniad da defnyddio'r porwyr Chrome neu Firefox i gael mynediad at y rhyngwyneb Cynadleddau. Nid yw porwr Safari yn delio â rhannu sgrin.
Gweld Rhyngwyneb Cynadleddau
Mae’r rhyngwyneb Cynadleddau yn cynnwys amrywiaeth o adnoddau i’ch helpu chi i safoni a chyfrannu at eich cyflwyniad. Mae'r rhyngwyneb yn cynnwys y canlynol:
- Dewislen Defnyddiwr [1]
- Ffenestr Gyflwyno [2]
- Adnoddau Cynhadledd [3]
- Dewislen Opsiynau [4]
Gweld Dewislen Defnyddiwr

O'r Ddewislen Defnyddwyr, gallwch weld pob defnyddiwr sydd yn y gynhadledd [1]. Mae pob defnyddiwr yn cael ei gynrychioli gan ei enw arddangos yn Canvas.
Hefyd, gallwch siarad â chyfranogwyr y gynhadledd a chyfrannu at nodiadau wedi'u rhannu. I agor sgwrs y gynhadledd, cliciwch y ddolen Sgwrs Gyhoeddus (Public Chat) [2]. I agor y Nodiadau wedi'u rhannu, cliciwch y ddolen Nodiadau wedi'u rhannu (Shared Notes) [3].
Mae'r Ddewislen Defnyddiwr ar agor yn ddiofyn. I gau'r Ddewislen Defnyddiwr, cliciwch yr eicon Defnyddwyr (Users) [4].
Rheoli Defnyddwyr

I reoli gosodiadau ar gyfer pob defnyddiwr, cliciwch yr eicon Gosodiadau Defnyddiwr (User Settings) [1].
I glirio eiconau statws defnyddwyr, cliciwch y ddolen Clirio pob eicon statws (Clear all status icons) [2].
I dewi defnyddwyr, Cliciwch y dolenni Tewi pob defnyddiwr (Mute all users) neu Tewi pob defnyddiwr heb law am y cyflwynydd (Mute all users except presenter) [3].
I gloi nodweddion penodol y gynhadledd, cliciwch y ddolen Cloi gwylwyr (Lock viewers) [4]. I greu ystafelloedd ymylol, cliciwch y ddolen Creu ystafelloedd ymylol (Create breakout rooms) [5].
I sgwrsio a defnyddiwr, tynnwch ddefnyddiwr o'r gynhadledd, neu dyrchafwch ddefnyddiwr i fod yn gyflwynydd neu safonwr, cliciwch enw'r defnyddiwr [6].
Gweld Ffenestr Cyflwyniad
Mae’r Ffenestr Cyflwyniad yn dangos y cyflwyniad sydd wedi cael ei ddewis gan y safonwr neu'r cyflwynydd [1]. I lwytho ffeil cyflwyniad newydd i fyny, dechrau pôl, neu rannu fideo allanol, cliciwch y botwm Ychwanegu (Add) [2].
I ddechrau recordio'r sesiwn, cliciwch y botwm Dechrau recordio (Start recording)[3].
Mae'r Ffenestr Cyflwyniad yn cynnwys nifer o adnoddau hefyd sy'n rheoli sut y gallwch chi gymryd rhan yn y gynhadledd. I dewi neu ddad-dewi eich meicroffon, cliciwch y botwm Meicroffon (Microphone) [4]. I adael neu ymuno â sain y gynhadledd, cliciwch y botwm Sain (Audio) [5].
I alluogi eich gwe-gamera, cliciwch y botwm Gwe-gamera (Webcam) [6]. Os yw gwe-gamerâu wedi'u galluogi, gallwch gau'r ffenestr cyflwyniad a dangos dim ond gwe-gamerâu drwy glicio’r eicon Cau (Close) [7].
I rannu sgrin eich cyfrifiadur, cliciwch y botwm Rhannu Sgrin (Share Screen) [8].
Gweld Adnoddau Anodi

Mae rhyngwyneb y Gynhadledd yn cynnwys nifer o adnoddau y gallwch chi eu defnyddio i anodi ffenestr y cyflwyniad. I ddefnyddio pensil i ysgrifennu yn y ffenestr cyflwyniad, cliciwch yr eicon Pensil [1].
I weld yr holl adnoddau anodi, cliciwch a daliwch yr eicon Pensil. Ynghyd â'r adnodd pensil, gallwch hefyd greu anodiadau testun [2], anodiadau llinell [3], neu anodiadau siâp [4].
I dremio dogfen sydd wedi cael ei nesáu, cliciwch yr eicon Tremio (Pan) [5].
I newid trwch anodiad, cliciwch yr eicon Trwch (Thickness) [6]. I newid lliw'r anodiad, cliciwch yr eicon Lliw (Color) [7].
I ddadwneud yr anodiad diweddaraf, cliciwch yr eicon Dadwneud (Undo) [8]. I ddileu’r holl anodiadau rydych chi wedi'u creu, cliciwch yr eicon Dileu (Delete) [9].
I adael i ddefnyddwyr ddefnyddio'r adnoddau anodi, newid lliw'r anodiad, cliciwch yr eicon Bwrdd Gwyn Aml-ddefnyddiwr (Multiuser Whiteboard) [10].
Agor Dewislen Opsiynau

I agor y ddewislen Opsiynau, cliciwch yr eicon Opsiynau [1].
I weld y cyflwyniad mewn sgrin lawn, cliciwch yr opsiwn Sgrin Lawn (Make fullscreen) [2].
I weld gwybodaeth am y rhyngwyneb, cliciwch yr opsiwn Am (About) [3]. I weld tiwtorialau help, cliciwch yr opsiwn Help [4]. I weld bysellau brys, cliciwch yr opsiwn Bysellau Brys (Hotkeys) [5].
I orffen y gynhadledd, cliciwch yr opsiwn Gorffen cyfarfod (End meeting) [6]. I allgofnodi o'r rhyngwyneb, cliciwch yr opsiwn Allgofnodi (Logout) [7].
Gweld Dewislen Gosodiadau

I agor y ddewislen Gosodiadau, cliciwch y ddolen Gosodiadau (Settings).
Rheoli Gosodiadau Rhaglen

I reoli gosodiadau rhaglen, cliciwch y ddolen Rhaglen (Application) [1].
I alluogi neu analluogi animeiddiadau sy'n ymddangos pan mae defnyddiwr yn siarad, cliciwch y botwm Animeiddiad [2].
I alluogi neu analluogi rhybuddion sgwrs, cliciwch y botwm Rhybuddion Sain ar gyfer Sgwrs (Audio Alerts for Chat) neu'r botwm Rhybuddion Naid ar gyfer Sgwrs (Popup Alerts for Chat) [3].
I ddewis iaith ar gyfer y rhyngwyneb, cliciwch y gwymplen Iaith Rhaglen (Application Language) [4] a dewiswch yr iaith. I newid maint y ffont, cliciwch y botwm Lleihau (Decrease) neu'r botwm Chwyddo (Increase) [5].
Nodyn: Dydy rhybuddion sgwrs ddim ond yn gweithio ar y math o borwr y mae'r rhyngwyneb Cynadleddau ar agor arno.
Rheoli Gosodiadau Cadw Data

I reoli gosodiadau cadw data, cliciwch y ddolen Cadw data (Data saving) [1].
I alluogi neu analluogi gwe-gamerâu, cliciwch y botwm Galluogi gwe-gamerâu (Enable webcams) [2]. I alluogi neu analluogi rhannu bwrdd gwaith, cliciwch y botwm Galluogi rhannu bwrdd gwaith (Enable desktop sharing) [3].