Sut ydw i’n dechrau cynhadledd?
Fe allwch chi ddechrau cynadleddau rydych chi wedi’u creu ar gyfer eich cwrs.
Agor Cynadleddau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Cynadleddau (Conferences).
Dechrau Cynhadledd

Cliciwch y botwm Cychwyn (Start)wrth ymyl y gynhadledd rydych chi am ei dechrau.
Bydd Canvas yn eich anfon i’r ystafell gynadledda ar gyfer eich cynhadledd. Gallwch ddysgu sut mae defnyddio’r rhyngwyneb cynadleddau.