Sut ydw i’n creu cynhadledd mewn cwrs?
Gallwch greu cynhadledd mewn cwrs i gynnal rhith oriau swyddfa a siaradwyr. Mae gwahoddiadau i’r gynhadledd yn cael eu hanfon pan fydd cynhadledd yn cael ei chreu. I adael i wahoddedigion wybod am gynadleddau sydd ar y gweill, gallwch greu digwyddiadau cwrs yn y Calendr.
Mae modd creu cynadleddau gyda chymaint o ddefnyddwyr ag sydd angen, er bod y canllaw yn argymell dim mwy na 100 defnyddiwr. Gallwch greu mwy nag un gynhadledd, a byddant yn cael eu rhestru’n gronolegol yn ôl y dyddiad y cawsant eu creu. Bydd y gynhadledd ddiweddaraf i gael ei chreu yn ymddangos ar frig y rhestr.
Nodiadau:
- Mae creu cynhadledd yn un o hawliau cwrs. Os nad oes modd i chi greu cynhadledd, mae eich sefydliad wedi cyfyngu’r nodwedd hon.
- Ni fydd defnyddwyr sydd wedi’u gwahodd i gynhadledd yn derbyn hysbysiad gan Canvas. Ond, yn dibynnu ar osodiadau hysbysu’r defnyddiwr, mae’n bosib y byddan nhw’n derbyn hysbysiad drwy e-bost a/neu hysbysiadau marchnata. I hysbysu defnyddwyr o gynhadledd yn Canvas, ystyriwch ychwanegu cyhoeddiad, aseiniad, neu ddigwyddiad calendr.
- I gael rhagor o wybodaeth am opsiynau gwe-gynadledda yn Canvas, ewch i weld yr Adnoddau Gwe-gynadledda.
- Mae’r ddolen Crwydro'r Cwrs ar gyfer eich adnodd gwe-gynadledda yn adlewyrchu enw’r adnodd gwe-gynadledda. Efallai y bydd y ddolen yn ymddangos fel BigBlueButton, Adobe Connect, neu enw’r adnodd gwe-gynadledda mae eich sefydliad yn ei ddefnyddio.
Nodyn: Os yw eich sefydliad yn debygol o fod angen mwy na 10 Cynhadledd wedi’u pweru ganBigBlueButtonar yr un pryd, ystyriwch uwchraddio i Premium BigBlueButton neu chwilio am wasanaethau cynadledda eraill y mae Canvas yn cydweithio â nhw, fel Zoom, Hangouts, Teams, ac adnoddau fideo-gynadledda eraill sy’n cynnig gwasanaethau am ddim neu am bris gostyngedig.
Agor Cynadleddau

Yn Crwydro'r Cwrs, cliciwch y ddolen ar gyfer eich adnodd gwe-gynadledda. Mae enw’r ddolen yn adlewyrchu’r adnodd cynadledda sy’n cael ei ddefnyddio gan eich sefydliad.
Ychwanegu Cynhadledd

Cliciwch y botwm Ychwanegu Cynhadledd (Add Conference).
Ychwanegu Manylion Cynhadledd

I greu cynhadledd newydd, teipiwch enw i'r gynhadledd yn y maes Enw (Name) [1].
Os ydych chi am osod cyfyngiad amser ar ba mor hir y bydd gwahoddedigion yn gallu ymuno â’r gynhadledd, rhowch nifer y munudau yn y maes Hyd (Duration) [2]. Bydd y cyfyngiad amser yn dechrau pan fydd y cyflwynydd yn dechrau'r gynhadledd. Ar ôl i’r cyfnod ddod i ben, ni fydd modd i aelodau newydd ymuno a bydd y gynhadledd yn parhau nes bydd y person olaf yn gadael yr ystafell gynadledda, neu fod trefnydd y gynhadledd yn terfynu’r gynhadledd.
Os ydych chi am alluogi opsiynau recordio ar gyfer y gynhadledd hon, dewiswch y blwch ticio Galluogi recordio ar gyfer y gynhadledd hon (Enable recording for this conference) [3].
Os nad ydych chi am osod cyfyngiad amser ar y gynhadledd, gallwch greu cynhadledd hir drwy ddewis y blwch ticio Dim cyfyngiad amser (ar gyfer cynadleddau hir) [4]. Bydd yr opsiwn hwn yn tynnu’r cyfyngiad amser o’r maes hyd.
I greu disgrifiad o'ch cynhadledd, teipiwch ddisgrifiad yn y maes Disgrifiad (Discription) [5].
Gwahodd Aelodau Cwrs

Gallwch ychwanegu unrhyw ddefnyddiwr ar eich cwrs at eich cynhadledd. Ond, ar ôl i ddefnyddiwr gael ei wahodd, does dim modd tynnu’r defnyddiwr o’r gynhadledd.
Yn ddiofyn, bydd pob aelod sydd ar y cwrs yn cael ei wahodd i'r gynhadledd [1].
I dynnu pob arsyllwr cwrs o wahoddiad y gynhadledd, dewiswch y blwch ticio Tynnu pob aelod sy’n arsyllwr cwrs (Remove All Course Observer Members) [2]. Pan fydd y blwch ticio hwn wedi’i ddewis bydd pob aelod o’r cwrs heblaw am arsyllwyr yn cael eu gwahodd i’r gynhadledd.
Nodyn: Mae modd i gynadleddau dderbyn cynifer o ddefnyddwyr ag sydd angen, er bod y canllaw yn argymell dim mwy na 100 defnyddiwr.
Gwahodd Adrannau, Grwpiau neu Aelodau Unigol

Os ydych chi am ddewis adrannau, grwpiau neu aelodau penodol o’ch cwrs, dad-ddewiswch y blwch ticio Gwahodd Pob Aelod o’r Cwrs (Invite All Course Members) [1].
I wahodd un neu ragor o adrannau cwrs, cliciwch y blychau ticio ar gyfer yr adrannau [2].
I wahodd un neu ragor o agrwpiau, cliciwch y blychau ticio ar gyfer y grwpiau [3].
I wahodd un neu ragor o aelodau unigol, cliciwch y blychau ticio ar gyfer yr aelodau [4].
Diweddaru Cynhadledd

I gadw gosodiadau’r gynhadledd, cliciwch y botwm Diweddaru (Update).
Nodyn: Ni fydd myfyrwyr sydd wedi’u gwahodd i gynhadledd yn derbyn hysbysiad gan Canvas. Ond, yn dibynnu ar osodiadau hysbysu’r myfyriwr, mae’n bosib y byddan nhw’n derbyn hysbysiad drwy e-bost, neges destun, a/neu hysbysiadau marchnata. I hysbysu myfyrwyr o gynhadledd yn Canvas, ystyriwch ychwanegu cyhoeddiad, aseiniad, neu ddigwyddiad calendr.
Gweld Cynhadledd

Gweld y gynhadledd rydych chi wedi’i chreu.