Sut ydw i’n cofrestru ar gyfer cyfrif Canvas newydd Am-Ddim-i-Athrawon fel addysgwr?
Os nad oes gennych chi gyfrif Canvas eisoes, mae angen i chi greu cyfrif cyn y gallwch chi fewngofnodi i Canvas.
Os ydych chi’n defnyddio Canvas drwy eich sefydliad, mae'n debygol iawn bod gennych chi gyfrif eisoes a bod angen i chi dderbyn gwahoddiad y cwrs. Bydd eich sefydliad yn anfon eich manylion mewngofnodi dros e-bost. Os nad oes gennych chi gyfrif eto, mae modd i chi greu cyfrif pan fyddwch chi'n derbyn gwahoddiad y cwrs. Os yw eich sefydliad yn defnyddio Canvas a’ch bod chi'n cael trafferth â'ch cyfrif, cysylltwch â’ch gweinyddwr i gael help.
Os nad yw eich sefydliad yn defnyddio Canvas, gallwch greu eich cyfrif eich hun, sydd hefyd yn cael ei alw’n gyfrif am-ddim-i-athrawon, er mwyn creu eich cyrsiau eich hun.
Nodiadau:
- Mae cyfrifon am-ddim-i-athrawon bob amser am ddim. Fodd bynnag, nid ydynt yn cynnwys yr holl nodweddion sydd ar gael i ddefnyddwyr sefydliadol yn Canvas. Mae rhagor o wybodaeth yn y PDF Cymharu Cyfrifon Canvas.
- Am gymorth gyda'ch cyfrif Am-Ddim-i-Athrawon, ewch i weld ein Cwestiynau Cyffredin Cyfrif Am-Ddim-i-Athrawon yn Canvas Community.
Rhoi URL

Rhowch eich URL cofrestru Canvas (ee canvas.instructure.com) yn eich porwr.
Creu Cyfrif Canvas

Cliciwch y ddolen Angen Cyfrif Canvas? (Need a Canvas Account?).
Cofrestru fel Athro

Cliciwch y botwm Rydw i’n Athro (I’m a Teacher).
Rhowch Wybodaeth am y Cyfrif

I gofrestru ar gyfer cyfrif Canvas am ddim i athrawon, rhowch eich enw yn y maes Enw (Name) [1] a’ch cyfeiriad e-bost yn y maes E-bost (Email) [2].
I gadarnhau eich bod chi’r cytuno â’r Telerau Defnyddio a'r Polisi Preifatrwydd rhowch dic yn y blwch Rydych chi’n cytuno â'r telerau defnyddio ac yn cydnabod y polisi preifatrwydd (You agree to the terms of use and acknowledge the privacy policy) [3].
Os yw hyn wedi’i alluogi gan eich sefydliad, bydd angen i chi gadarnhau nad robot ydych chi drwy glicio’r blwch ticio Nid robot ydw i (I'm not a robot) [4].
I gadarnhau eich bod chi wedi cofrestru, cliciwch y botwm Dechrau Dysgu (Start Teaching) [5].
Gweld Cyfrif Canvas

Byddwch chi’n cael eich mewngofnodi i’ch cyfrif Canvas yn awtomatig. I weld Canvas, cliciwch y botwm Cychwyn (Get Started).
Gorffen Cofrestru

I orffen cofrestru ar gyfer Canvas, bydd angen i chi fewngofnodi i’ch cyfrif e-bost. Ar ôl dod o hyd i’r e-bost ar gyfer cofrestru, cliciwch y ddolen Cliciwch yma i gwblhau'r broses gofrestru.
Creu Cyfrinair

Rhowch gyfrinair ar gyfer eich cyfrif yn y maes Cyfrinair (Password) [1]. Dewiswch eich cylchfa amser yn y gwymplen Cylchfa Amser (Time Zone) [2]. Yna cliciwch y botwm Cofrestru (Register) [3].