Sut ydw i’n recordio cyfryngau gan ddefnyddio'r Golygydd Cynnwys Cyfoethog fel addysgwr?
Gallwch ddefnyddio'r Golygydd Cynnwys Cyfoethog Newydd i recordio cyfryngau fideo a sain. Gallwch recordio cyfryngau am unrhyw hyd, ond fe argymhellir recordiadau cyfryngau byrrach. Os yw eich cyfryngau yn hirach na 15 munud, efallai yr hoffech chi ystyried recordio fideo a’i lwytho i fyny gan ddefnyddio darparwr allanol. Mae angen mwy o amser i rendro recordiadau cyfryngau hirach, ac os nad oes gennych gysylltiad sefydlog â'r rhyngrwyd, gall hynny darfu ar y broses.
Mae sawl nodwedd yn Canvas yn cefnogi’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog Newydd, gan gynnwys Cyhoeddiadau, Aseiniadau, Trafodaethau, Tudalennau, Cwisiau, a Maes Llafur.
Nodiadau:
- Dim ond i Chrome, Firefox ac Edge (Chromium) y mae recordio cyfryngau HTML5 yn berthnasol. Os ydych chi’n defnyddio Internet Explorer neu Safari, rhaid i chi ddefnyddio recordio fideo Flash.
- Ar hyn o bryd mae’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog Newydd yn nodwedd optio i mewn. Gallwch chi reoli nodweddion eich cwrs yng Ngosodiadau’r Cwrs.
- Mae cyfryngau sydd wedi’i recordio yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog yn cael eu cadw yn eich Ffeiliau Cwrs neu Ffeiliau Grŵp.
Agor y Golygydd Cynnwys Cyfoethog Newydd

Agorwch y Golygydd Cynnwys Cyfoethog Newydd wrth greu neu olygu cyhoeddiad, aseiniad, trafodaeth, tudalen, cwis, neu faes llafur.
Nodyn: Mae’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog yn cefnogi bysellau hwylus. I weld y ddewislen Bysellau Hwylus, cliciwch yr eicon Bysellfwrdd neu bwyso ALT+F8 (Bysellfwrdd PC) neu ALT+FN+F8 (Bysellfwrdd Mac).
Agor yr Adnodd Llwytho Cyfryngau i Fyny o’r Bar Offer

I lwytho cyfryngau i fyny o’r bar offer, cliciwch yr eicon Cyfryngau (Media) [1].
Gallwch chi hefyd lwytho cyfryngau i fyny o’r ddewislen opsiynau cyfryngau. I weld opsiynau cyfryngau ychwanegol, cliciwch y saeth Opsiynau Cyfryngau (Media Options) [2]. Yna dewiswch yr opsiwn Llwytho i Fyny/Recordio Cyfryngau (Upload/Record Media) [3].
I weld yr eicon Cyfryngau, efallai y bydd angen i chi glicio’r eicon Opsiynau (Options) icon [4].
Nodyn: Os nad yw’r eicon Cyfryngau i’w weld yn y bar offer, mae llwytho cyfryngau i fyny wedi cael ei analluogi gan eich sefydliad.
Agor yr Adnodd Llwytho Cyfryngau i Fyny o’r Bar Dewislen

Gallwch chi hefyd lwytho cyfryngau i fyny gan ddefnyddio’r bar dewislen yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog. Mae’r bar dewislen yn dangos teitlau offer y Golygydd Cynnwys Cyfoethog ac efallai ei fod yn well i’r rheini sy’n defnyddio bysellau crwydro.
I lwytho cyfryngau i fyny gan ddefnyddio’r bar dewislen, cliciwch y ddewislen Mewnosod (Insert) [1], dewiswch yr opsiwn Cyfryngau (Media) [2], a dewiswch yr opsiwn Llwytho i Fyny/Recordio Cyfryngau (Upload/Record Media) [3].
Agor yr Adnodd Recordio Cyfryngau
Cliciwch y tab Recordio (Record).
Dewis Opsiynau Meicroffon a Gwe-gamera

Mae’r recordydd ar gyfryngau yn cysylltu â meicroffon a gwe-gamera diofyn eich cyfrifiadur.
I newid gosodiadau eich meicroffon, cliciwch y botwm Meicroffon (Mic) [1]. Yna dewiswch o’r opsiynau sy’n ymddangos [2].
I newid gosodiadau eich gwe-gamera, cliciwch y botwm Gwe-gamera (Webcam) [3]. I analluogi recordio fideo, dewiswch yr opsiwn Dim Fideo (No Video) [4].
Recordio Cyfryngau

Cliciwch y botwm Dechrau Recordio (Start Recording).
Gorffen Recordio Cyfryngau
Mae’r recordydd ar gyfryngau yn dangos hyd eich recordiad presennol [1].
I ailddechrau eich recordiad, cliciwch y botwm Dechrau eto (Start Over) [2].
I orffen recordio, cliciwch y botwm Gorffen (Finish) [3].
Gweld Rhagolwg o’r Cyfryngau wedi Recordio

Gweld rhagolwg o'r cyfryngau sydd wedi recordio ar y recordydd ar gyfryngau [1].
I roi teitl ar eich cyfryngau, teipiwch yn y maes Teitl (Title) [2].
I blannu eich cyfryngau yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog Newydd, cliciwch y botwm Cadw (Save) [3].
Gweld Cyfryngau wedi Plannu

Gweld eich ffeil cyfryngau wedi’u llwytho i fyny yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog Newydd.
Cadw Newidiadau

Cliciwch y botwm Cadw.
Nodiadau:
- Mae’r tudalennau manylion cwisiau, tudalennau, trafodaethau, ac aseiniadau yn cynnwys botwm Cadw a Chyhoeddi.
- Mae’r dudalen maes llafur yn cynnwys botwm Diweddaru Maes Llafur (Update Syllabus).
- Mae ymatebion i drafodaethau yn cynnwys botwm Postio Ymateb (Post Reply).
Gweld Cynnwys

Gweld y cynnwys sydd wedi’i greu yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog Newydd.