Sut ydw i’n graddio asesiad yn New Quizzes?
Gallwch chi raddio asesiadau New Quizzes yn defnyddio SpeedGrader. Mae’r rhan fwyaf o eitemau asesiad yn cael eu graddio’n awtomatig ar ôl i fyfyriwr gyflwyno’r asesiad. Ond rhaid i gwestiynnau llwytho ffeil i fyny a thraethodau gael eu graddio gennych chi.
Mae'r wers hon yn disgrifio sut i gael mynediad at SpeedGrader o’r Llyfr Graddau.
Agor Graddau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Graddau (Grades).
Agor SpeedGrader

I agor SpeedGrader, hofrwch dros bennawd y golofn aseiniad a chlicio’r eicon Opsiynau (Options) [1]. Yna cliciwch y ddolen SpeedGrader [2].
Gweld SpeedGrader
Gweld yr asesiad yn SpeedGrader [1]. Wrth raddio asesiadau, gallwch chi ddefnyddio opsiynau dewislen [2], newid myfyrwyr [3], newid cyflwyniadau [4], a gadael sylwadau aseiniadau [5] yn SpeedGrader. Dysgwch sut i ddefnyddio SpeedGrader.
Gweld Cwestiynau sydd Angen eu Hadolygu

Os oes unrhyw gwestiynau angen eu graddio eich hun, bydd y dudalen Canlyniadau yn dangos neges rhybudd yn rhestru’r cwestiynau i’w hadolygu. Rhaid i gwestiynau llwytho ffeil i fyny a thraethodau gael eu graddio gennych chi.
Gweld Canlyniadau

Mae canlyniadau asesiadau’n cynnwys y sgôr canran [1], sgôr pwyntiau [2], a’r amser i gwblhau’r ymgais [3].
Graddio Eitem

Mae gan eitemau sydd angen eu graddio gennych chi forder llwyd [1]/
I roi pwyntiau llawn i fyfyriwr am ateb, cliciwch y botwm Tic (Checkmark) [2]. I roi dim pwyntiau i fyryriwr am ateb, cliciwch y botwm X[3]. Gallwch chi hefyd ddefnyddio’r botymau Saeth (Arrow) i gynyddu neu leihau’r sgôr [4].