Sut ydw i’n creu asesiad yn defnyddio New Quizzes?
Gallwch chi greu asesiad yn nefnnyddio New Quizzes yn y dudalen Gwisiau. Gallwch greu pob math o yn cynnwys.
Nodyn: Mae New Quizzes yn adnodd LTI optio i mewn. Os nad yw’r adnodd hwn ar gael i chi, cysylltwch â’ch gweinyddwr Canvas.
Agor Cwisiau

Yn y ddewislen Crwydro'r Cwrs (Course Navigation), cliciwch y ddolen Cwisiau (Quizzes).
Ychwanegu Asesiad

Cliciwch y botwm Ychwanegu Cwis.
Creu Asesiad New Quiz

Yn y sgrin Dewiswch Beiriant Cwisiau, dewiswch yn opsiwn New Quizzes [1]. I gadw eich dewis o beiriant cwis ar gyfer y cwrs hwn, ticiwch y blwch ticio Cofio fy newis ar gyfer y cwrs hwn (Remember my choice for this course) [2].
Yna cliciwch y botwm Cyflwyno (Submit) [3].
Nodyn: Gallwch chi ailosod eich dewis o beiriant cwis o’r ddewislen Opsiynau Cwis ar unrhyw adeg.
Golygu Manylion Asesiad

Yn y maes Enw’r Aesiniad (Assignment Name) [1], rhowch enw eich aseiniad. I roi manylion asesiad, rhowch yr uchafswm pwyntiau posib [2], dewiswch y grŵp aseiniadau [3], a dewiswch sut y bydd y radd yn cael ei dangos i fyfyrwyr [4].
I beidio â chynnwys yr asesiad hwn yn y radd derfyno, cliciwch y blwch ticio Peidio â chynnwys yr aseiniad hwn yn y radd derfynol (Do not count this assignment towards the final grade) [5].
Y pwyntiau posib a osodir ar dudalen manylion yr aseiniad yw cyfanswm y pwyntiau sy'n bosib ar gyfer yr asesiad. Mae'r pwyntiau a osodir fesul cwestiwn yn pennu'r pwyntiau a enillwyd ar gyfer atebion cywir. Mae pwyntiau a enillir am atebion cywir yn cael eu cyfrif a'u rhannu â chyfanswm y pwyntiau cwestiwn ar gyfer y cwis. Yna defnyddir y ganran honno i gyfrifo'r sgôr derfynol yn seiliedig ar gyfanswm y pwyntiau a osodir ar dudalen manylion yr aseiniad. Er enghraifft, os ydych chi'n gosod cyfanswm y pwyntiau ar dudalen manylion yr aseiniad i 50 ac yn creu asesiad gyda 10 cwestiwn yr un gwerth 1 pwynt, mae gan y cwis gyfanswm o 10 pwynt ond mae'n werth 50 pwynt wrth ei raddio. Os yw myfyriwr yn ateb 9 cwestiwn yn gywir, ei sgôr cwis yw 90% (9/10). Ond, ei sgôr derfynol yn y Llyfr Graddau fydd 45/50 (90%).
Neilltuo Asesiad

Yn y maes Neilltuo I (Assign To) [1], dewiswch bwy fydd yn gorfod cymryd eich asesiad. Mae modd i chi neilltuo’r asesiad i fyfyriwr unigol neu i adrannau.
Yn y maes Erbyn [2], dewiswch ddyddiad erbyn yr asesiad.
Yn y meysydd Ar gael o (Available from) a Nes (Until) [3], dewiswch y dyddiadau ar gael ar gyfer yr asesiad.
Nodyn: Os ydych chi wedi gosod dyddiadau diystyru manylion adran yn eich cwrs, mae'n bosib y bydd angen i chi ddewis adran cwrs a gosod dyddiadau erbyn a dyddiadau ar gael sy'n syrthio o fewn y dyddiadau diystyru manylion adran.
Cadw Asesiad

I gadw manylion eich asesiad, cliciwch y botwm Cadw.
Creu Asesiad
Yn y dudalen Adeiladu, gallwch chi olygu teitl a disgrifiad eich asesiad [1], gweld eich banc eitemau [2], cysoni’r asesiad gyda’r deilliannau [3], cael cipolwg o’r asesiad o olwg y myfyriwr [4], a chrwydro’r asesiad [5].
Gallwch chi ddefnyddio’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog i fformatio ac ychwanegu cynnwys yn ôl cyfarwyddiadau eich asesiad.
Ychwanegu Cynnwys

I ychwanegu cynnwys at eich asesiad, cliciwch y botwm Ychwanegu (Add).

I fewnosod cynnwys o fanc eitemau, cliciwch y botwm Banc Eitemau (Item Bank) [1]. I greu cwestiwn newydd, cliciwch y botwm at gyfer y math o gwestiwn [2] neu ychwanegu cynnwys symbylu [3].
Mae’r mathau canlynol o gwestiwn ar gael yn New Quizzes:
Golygu’r Cwestiwn
Ar gyfer pob cwestiwn, gallwch chi roi teitl y cwestiwn [1], sail y cwestiwn [2], ac atebion [3]. Gallwch chi hefyd ddewis opsiynau sy’n benodol i’r cwestiwn [4], cysonwch y cwestiwn gyda deilliant [5], ac ychwanegu’r cwestiwn at fanc eitemau [6].
Yn y maes Pwyntiau (Points) [7], newidich werth y pwynt ar gyfer cwestiwn drwy roi rhif neu glicio’r botymau saeth. I ychwanegu adborth cyffredinol gan fyfyrwyr, cliciwch yr eicon Adborth (Feedback) [8].
I gadw'r cwestiwn, cliciwch y botwm Wedi gorffen (Done) [9].
Nodyn: Dydy cwestiynau traethawd ddim yn cynnwys maes ateb a rhaid i chi eu graddio eich hun.
Dileu Cwestiwn
I ddileu cwestiwn, cliciwch yr eicon Dileu (Delete). Bydd y dudalen yn cadarnhau eich bod chi eisiau symud yn eitem.
Agor y Llywiwr Cwestiynau

I agor y Llywiwr Cwestiynau a gweld eich asesiad, cliciwch yr eicon Ehangu (Expand).
Gweld y Llywiwr Cwestiynau

Yn y Llywiwr Cwestiynau, gallwch chi weld rhif pob cwestiwn [1], y math o gwestiwn [2], cyfanswm pwyntiau [3], sail y cwestiwn [4] a chyfanswm pwyntiau'r cwestiwn [5].

I weld cwestiwn mewn asesiad, cliciwch sail y cwestiwn [1]. Byddwch chi’n cael eich cludo i’r cwestiwn yn yr asesiad.
I aildrefnu cwestiynau eich hun, cliciwch a dal yr eicon Symud (Move) [2]. Llusgwch y cwestiwn i le yr hoffech chi ei ddangos yn yr asesiad.