Canvas Guides (cy)Canllaw Addysgwyr Canvas FfeiliauPa fathau o ffeiliau cyfryngau y mae modd i mi eu llwytho i fyny yn Canvas fel addysgwr?

Pa fathau o ffeiliau cyfryngau y mae modd i mi eu llwytho i fyny yn Canvas fel addysgwr?

Gall Canvas lwytho ffeiliau delwedd, fideo a sain penodol i fyny fel cynnwys defnyddiwr. 

Pan fyddwch chi'n llwytho ffeiliau sain a chyfryngau i fyny gan ddefnyddio'r adnodd cyfryngau yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog, mae Canvas yn newid ffeiliau hyd at 500 MB. Os bydd ffeil yn fwy na'r cyfyngiad o 500 MB, gallwch letya'r ffeil trwy ffynhonnell allanol fel YouTube a'i phlannu gan ddefnyddio'r Golygydd Cynnwys Cyfoethog. I ddysgu mwy am yr opsiynau sydd ar gael i ddefnyddio ffeiliau cyfryngau yn Canvas, edrychwch ar y PDF Cymharu Cyfryngau Canvas.

Pan fyddwch chi'n llwytho ffeil i fyny i'ch cwrs, grŵp, neu ffeiliau defnyddiwr, bydd Canvas yn newid y ffeil i fformat sy'n gydnaws â'ch porwr. Fodd bynnag, dydy Canvas ddim yn gallu delio â llwytho ffeiliau i fyny sy’n fwy na 5 GB. Mae chwarae cyfryngau yn cael ei benderfynu yn ôl y porwr, felly os nad oes modd i chi weld y ffeil, mae'n bosib y bydd angen i chi geisio gweld y ffeil mewn porwr arall. Mae'n bosib y bydd angen i chi alluogi neu ddiweddaru'r ategyn Adobe Flash hefyd.

Mae gan ffeiliau Canfas gyfyngiadau cwota ar gyfer pob maes defnyddiwr: ffeiliau (personol) defnyddiwr, ffeiliau cwrs, a ffeiliau grŵp. Mae ffeiliau sy'n cael eu llwytho i fyny yn uniongyrchol i'ch ffeiliau defnyddiwr neu ffeiliau grŵp yn cyfrif tuag at y cwotâu penodol, heblaw am lwytho llun proffil i fyny. Mae pob ffeil sy'n cael ei llwytho i fyny i gwrs yn cyfrif tuag at gwota'r cwrs. I fyfyrwyr, bydd unrhyw atodiadau sy’n cael eu hychwanegu fel rhan o’r broses o gyflwyno'r aseiniad wedi'i raddio yn cael eu llwytho i fyny i ffeiliau defnyddiwr ond fyddan nhw ddim yn cyfrif tuag at y cwota defnyddiwr.

Nodyn: Os byddwch chi'n llwytho ffeil i fyny na all chwaraewr cyfryngau Canvas ddelio â hi, gallwch drefnu bod defnyddwyr yn llwytho'r ffeil i lawr er mwyn ei gweld tu allan i Canvas.

Fformatau Delwedd Cydnaws

Bydd Canvas yn derbyn y mathau canlynol o ddelwedd:

  • JPEG - Joint Photographic Experts Group
  • GIF - Fformat Rhyngnewid Graffigion (Graphics Interchange Format)
  • BMP - Map Didau Windows (Windows Bitmap)
  • TIFF - Adobe Systems
  • PNG - Graffigion Rhwydwaith Cludadwy (Portable Network Graphics)

Nodyn: Er bod modd llwytho ffeiliau TIFF i fyny i'r storfa ffeiliau, ni fyddant yn ymddangos mewn unrhyw ran o Canvas.

Fformatau Fideo Cydnaws

Mae chwaraewr cyfryngau Canvas yn gallu delio â chwarae fideo H.264; ar gyfer platfformau sydd ddim yn gallu delio â H.264 yn uniongyrchol, bydd chwaraewr cyfryngau Canvas yn defnyddio aategyn Flash.

Bydd Canvas yn derbyn y mathau canlynol o ffeiliau fideo i'w chwarae:

  • FLV – Fideo Flash (Flash Video)
  • ASF – Windows Media
  • QT – Apple QuickTime
  • MOV – Apple QuickTime
  • MPG – Fformat Fideo Digidol (Digital Video Format)
  • MPEG – Fformat Fideo Digidol (Digital Video Format)
  • AVI – Fformat Fideo Digidol (Digital Video Format)
  • M4V – Fformat Fideo Digidol (Digital Video Format)
  • WMV – Windows Media
  • MP4 – Fformat Fideo Digidol (Digital Video Format)
  • 3GP – Fformat Symudol Amlgyfrwng (Multimedia Mobile Format)

 

I gael awgrymiadau ynglŷn â chywasgu cyfryngau ac ansawdd chwarae, darllenwch Ganllawiau Cywasgu Fideo Vimeo.

Fformatau Sain Cydnaws

Bydd Canvas yn derbyn y mathau canlynol o ffeiliau sain i'w chwarae:

  • MP3 – Fformat Sain Digidol (Digital Audio Format)
  • WMA – Sain Windows media (Windows media audio)
  • WMV – Windows Media