Canvas Guides (cy)Canllaw Gweinyddwyr Canvas Gwybodaeth am GymorthSut ydw i’n gallu rheoli tocynnau cymorth ar gyfer fy sefydliad?

Sut ydw i’n gallu rheoli tocynnau cymorth ar gyfer fy sefydliad?

Mae Dewis System Docynnau yn rhoi’r cyfle i chi ddewis o dri chyrchfan posib i’r tocynnau y bydd eich defnyddwyr yn eu creu drwy Ddewislen Help Canvas, a bydd yn eich helpu i symleiddio llif gwaith eich tîm cefnogi mewnol. I ddysgu mwy am Ddewis System Docynnau, ewch i weld Canvas Labs yn y Gymuned.

Gallwch ddewis llwybro tocynnau eich defnyddwyr:

  1. I’n system docynnau (Cwmwl Gwasanaeth Salesforce)
  2. I’ch copi chi o Zandesk neu’r Cwmwl Gwasanaeth gan ddefnyddio cysylltydd API personol
  3. I bron unrhyw system docynnau arall gydag e-bost neu bost ar y we

Anfon Tocynnau i’n System Docynnau

Y cyrchfan diofyn ar gyfer anfon tocynnau yw system Cymorth Canvas (Cwmwl Gwasanaeth) (Sending tickets to the Canvas Support system (Service Cloud) is the default destination).

Os yw gweithio yn yr un system docynnau â Thîm Cymorth Canvas yn hwylus i chi, yna mae croeso i chi ddefnyddio’r opsiwn hwn. Mae yno rai gwelliannau, gan gynnwys mynediad at adroddiadau i ddadansoddi eich tocynnau. Mewngofnodi i’r Cwmwl Gwasanaeth.

Cysylltyddion Zandesk a’r Cwmwl Gwasanaeth

Gallwch ddefnyddio eich copi chi o Zandesk neu’r Cwmwl Gwasanaeth gyda chysylltyddion API personol ar gyfer Canvas. Mae’r opsiwn hwn yn caniatáu defnydd o’r metadata o Canvas gyda phob tocyn. Gallwch hefyd fanteisio ar y nodweddion dadansoddi.

Y Cysylltyddion E-bost a Phostio ar y We

Gallwch newid cysylltyddion e-bost neu bostio ar y we yn docynnau yn eich system docynnau eich hun, hyd yn oed os nad ydych chi'n defnyddio Zendesk neu’r Cwmwl Gwasanaeth.