Sut ydw i’n creu cyhoeddiad cyffredinol mewn cyfrif?
Mae cyhoeddiadau cyffredinol yn gadael i chi gysylltu â phob defnyddiwr, neu ddefnyddiwr penodol, o fewn cyfrif neu isgyfrif gan ddefnyddio un neges. Er enghraifft, os oes cyfnod o ddiweddaru’r cyfrif neu os na fydd ar gael am gyfnod, mae’n bosib y byddwch chi am adael i’r defnyddwyr wybod o flaen llaw fel eu bod nhw’n gallu trefnu’n unol â hynny.
Mae cyhoeddiadau cyffredinol i’w gweld o bob cyfrif sy’n gysylltiedig â defnyddiwr, ac maen nhw i’w gweld yn Nangosfwrdd y defnyddiwr. Os byddwch chi'n dewis yr opsiwn i anfon hysbysiad, bydd defnyddwyr sydd wedi galluogi'r dewis hysbysiadau ar gyfer Cyhoeddiadau Cyffredinol yn gallu derbyn rhybuddion am gyhoeddiadau byd-eang trwy'r math hysbysu a ffefrir ganddynt. Dydy cyhoeddiadau a hysbysiadau cyffredinol ddim ond yn cael eu hanfod at ddefnyddwyr sydd â mwy nag un ymrestriad gweithredol yn y tymor presennol.
Os oes gan ddefnyddiwr gyfrif gyda mwy nag un sefydliad, bydd y defnyddiwr yn gallu gweld mwy nag un cyhoeddiad. Er mwyn helpu i wahaniaethu rhwng cyhoeddiadau ar lefel y cyfrif a’r isgyfrif, mae’r cyhoeddiad hefyd yn nodi pa gyfrif neu isgyfrif anfonodd y cyhoeddiad cyffredinol.
Gallwch greu pum math gwahanol o gyhoeddiad: rhybudd, gwall, gwybodaeth, cwestiwn, neu galendr. Pan fydd cyhoeddiad cyffredinol newydd yn cael ei greu, bydd yr wybodaeth yn ymddangos fel y math o gyhoeddiad diofyn. I ddysgu mwy am y mathau o gyhoeddiadau a sut maen nhw’n ymddangos i ddefnyddwyr, edrychwch ar y PDF Mathau o Gyhoeddiad Cyffredinol.
Mae modd i gyhoeddiadau cyffredinol ymddangos yn ystod cyfnod penodol. Ar ôl i gyhoeddiad gyrraedd ei ddyddiad cychwyn, bydd y cyhoeddiad i’w weld yn syth yn nangosfwrdd pob defnyddiwr a bydd modd i’r defnyddiwr ei ddiystyru.
Os oes angen, gallwch hefyd olygu’r testun mewn cyhoeddiad cyffredinol, er enghraifft i newid camgymeriadau sillafu. Mae modd golygu’r dyddiadau dechrau a gorffen hefyd tan ddyddiadau dechrau a gorffen go iawn y cyhoeddiad.
Nodiadau:
- Pan na fydd defnyddwyr wedi ymrestru ar unrhyw gyrsiau, mae modd iddyn nhw weld cyhoeddiadau o’r cyfrif gwraidd. Dim ond ar ôl cael eu hychwanegu at gwrs o fewn isgyfrif y mae modd gweld cyhoeddiadau isgyfrifon. Does dim rhaid cyhoeddi cyrsiau i ddefnyddwyr weld cyhoeddiadau isgyfrif.
- Mae prif liw’r Golygydd Thema yn gysylltiedig â hysbysiadau calendr, gwybodaeth, a chwestiynau. Ond, does dim modd newid lliwiau rhybuddion a gwallau.
- Ni fydd unrhyw newidiadau i Gyhoeddiad Cyffredinol ar ôl ei ddyddiad cychwyn yn golygu bod y neges yn ailymddangos i ddefnyddwyr sydd wedi ei diystyru’n barod. Dylai unrhyw newidiadau sylweddol i gyhoeddiad cyffredinol gael eu creu fel Cyhoeddiad Cyffredinol newydd fel ei fod yn ailymddangos i bob defnyddiwr.
- Dydy cyhoeddiadau cyffredinol ddim yn cael eu dangos i ddefnyddwyr sydd ag ymrestriadau anweithredol neu ymrestriadau sydd wedi'u dirwyn i ben gan y defnyddiwr.
Agor Cyfrif

Cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [2], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].
Agor Gosodiadau

Yng Ngosodiadau'r Cyfrif, cliciwch y ddolen Gosodiadau (Settings).
Nodyn: I wneud cyhoeddiad mewn isgyfrif, cliciwch y ddolen Isgyfrifon (Sub-Accounts), a dewis isgyfrif, yna cliciwch ddolen Gosodiadau (Settings) yr isgyfrif.
Ychwanegu Cyhoeddiad Newydd

Cliciwch y botwm Ychwanegu Cyhoeddiad Newydd (Add New Announcement).
Ychwanegu Manylion Cyhoeddiad

Yn y maes Teitl (Title) [1], rhowch deitl y cyhoeddiad.
Yn y maes Math o gyhoeddiad (Announcement type) [2], gosodwch y math o gyhoeddiad (rhybudd, gwall, gwybodaeth, cwestiwn, neu galendr).
Yn y maes Neges (Message) [3], gallwch greu’r cyhoeddiad gan ddefnyddio’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog. Mae’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog yn cynnwys cyfrif geiriau o dan gornel dde isaf y blwch testun.
Yn yr adran Dangos i [4], dewiswch rolau’r defnyddwyr a ddylai weld y cyhoeddiad. Gallwch ddewis rolau cwrs a chyfrif. Bydd dewis rôl yn anfon hysbysiad ar bob defnyddiwr sydd a'r rôl honno ar unrhyw gwrs. Os nad oes unrhyw rolau wedi’u dewis, bydd y cyhoeddiad i’w weld gan bawb sydd â chwrs yn y cyfrif neu isgyfrif tarddu.
Nodyn: Os yw eich sefydliad yn gysylltiedig â chyfrif ymddiriedaeth, gallwch ddewis dim ond dangos y cyhoeddiad i ddefnyddwyr yn y parth presennol.
Dewis Dyddiadau Dechrau a Gorffen

Dewiswch ddyddiadau dechrau a gorffen ar gyfer y cyhoeddiad drwy deipio yn y meysydd neu ddewis yr eiconau Calendr (Calendar) (gofynnol).
Anfon Hysbysiad am Gyhoeddiad

I anfon hysbysiad yn syth at ddefnyddwyr pan mae'r cyhoeddiad yn dechrau, cliciwch y blwch ticio Anfon hysbysiad yn syth at ddefnyddwyr pan mae cyhoeddiad yn dechrau. Bydd defnyddwyr sydd wedi galluogi'r dewis hysbysiadau ar gyfer Cyhoeddiadau Cyffredinol yn derbyn hysbysiad pan fydd y cyhoeddiad yn dechrau.
Cyhoeddi Cyhoeddiad

Cliciwch y botwm Cyhoeddi Cyhoeddiad (Publish Announcement).
Gweld Cyhoeddiad Cyffredinol

Gweld y cyhoeddiad cyffredinol. Mae’r cyhoeddiad yn cynnwys enw eich cyfrif neu isgyfrif.
Rheoli Cyhoeddiad

I olygu eich cyhoeddiad cyffredinol, cliciwch yr eicon Golygu (Edit)[1]. I ddileu eich cyhoeddiad cyffredinol, cliciwch yr eicon Dileu (Delete)[2].