Sut ydw i’n dod o hyd i ddeilliant ychwanegol i’w ychwanegu at gyfrif?
Bydd yr holl ddeilliannau sy’n cael eu hychwanegu ar lefel y cyfrif neu’r isgyfrif ar gael i gyrsiau o fewn y cyfrif. Gallwch ganfod a mewngludo Safonau Cyfrif, sef deilliannau sydd wedi’u creu gennych chi neu gan ddefnyddwyr eraill sydd â hawliau gweinyddwr ar gyfer y sefydliad cyfan. Gallwch hefyd ganfod Safonau Taleithiau a Safonau Common Core.
Gallwch fewngludo deilliant unigol neu fewngludo grŵp deilliannau cyfan.
Mae’r wers hon yn dangos sut mae darganfod deilliant presennol yn y wedd tudalen Deilliannau glasurol. Os ydy’r dudalen Deilliannau yn eich cyfrif yn edrych yn wahanol i'r delweddau yn y wers hon, dysgwch sut mae darganfod deilliant presennol sydd wedi galluogi’r opsiwn nodwedd Gwell Rheoli Deilliannau.
Agor Cyfrif

Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].
Agor Deilliannau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cyfrif neu’r Isgyfrif, cliciwch y ddolen Deilliannau (Outcomes).
Dod o hyd i ddeilliant

Cliciwch y botwm Canfod (Find). Byddwch chi’n dod o hyd i ddeilliannau sy’n bodoli’n barod ar gyfer Safonau Cyfrif, Taleithiau neu Common Core.
Mewngludo Deilliant
Dewiswch enw grŵp deilliannau i weld y deilliannau sydd ar gael [1]. Gallwch hefyd weld grwpiau deilliannau o fewn grwpiau deilliannau eraill.
Pan fyddwch chi wedi dod o hyd i ddeilliant, cliciwch enw’r deilliant rydych am ei fewngludo [2]. Cliciwch y botwm Mewngludo (Import) [3].
Nodyn: Gallwch hefyd fewngludo grŵp deilliannau cyfan.
Gweld Deilliant
Gallwch weld y Deilliannau sydd wedi’u mewngludo.
Mae deilliannau a grwpiau deilliannau yn cael eu mewngludo i’r prif lefel deilliannau; gallwch ddysgu sut mae symud deilliannau neu grwpiau deilliannau.