Sut ydw i’n creu deilliant ar gyfer cyfrif?
Os na allwch chi ddod o hyd i ddeilliant i’w ddefnyddio yn eich cyfrif, gallwch greu deilliant newydd ar gyfer y cyfrif. Gellir creu deilliannau o’r cyfrif, yr isgyfrif neu ar lefel y cwrs.
Mae modd cynnwys deilliannau mewn cyfarwyddiadau sgorio aseiniadau fel ffordd hawdd o asesu meistrolaeth o ddeilliannau sy’n cyd-fynd ag aseiniadau penodol. Pan fyddwch chi’n diffinio deilliant dysgu, dylech hefyd ddiffinio maen prawf y gellir ei ddefnyddio wrth greu cyfarwyddiadau sgorio ar gyfer aseiniad. Diffiniwch gynifer o golofnau cyfarwyddyd sgorio ag y bo angen arnoch, a phennu trothwy pwyntiau a gaiff ei ddefnyddio i ddiffinio meistrolaeth o’r deilliant hwn.
Mae’r wers hon yn dangos sut mae creu deilliannau yn y wedd tudalen Deilliannau glasurol. Os ydy’r dudalen Deilliannau yn eich cyfrif yn edrych yn wahanol i'r delweddau yn y wers hon, dysgwch sut mae creu deilliannau sydd wedi galluogi’r opsiwn nodwedd Gwell Rheoli Deilliannau.
Agor Cyfrif

Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].
Agor Deilliannau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cyfrif, cliciwch y ddolen Deilliannau (Outcomes).
Ychwanegu deilliant

Cliciwch y botwm Deilliant Newydd (New Outcome).
Creu Deilliant

Rhowch enw i’r deilliant yn y maes Enw’r deilliant hwn (Name this outcome) [1].
Pan fydd addysgwyr yn caniatáu i fyfyrwyr weld sgorau Meistroli Dysgu (Learning Mastery) ar y dudalen Graddau, bydd y myfyrwyr yn gweld enw’r deilliant. Fodd bynnag, efallai eich bod chi am greu enw cyfarwydd a phersonol eich hun. I greu enw cyfarwydd ar gyfer gwedd myfyrwyr, rhowch enw yn y maes Enw cyfarwydd (dewisol) (Friendly name (optional)) [2].
Mae modd i chi roi disgrifiad yn y maes Golygydd Cynnwys Cyfoethog hefyd [3].
Ychwanegu Sgorau Maen Prawf

Cliciwch yr eicon Golygu (Edit) [1] i olygu sgôr y maen prawf. Mae modd i chi newid yr enw presennol (os ydych chi’n dymuno) ar gyfer y maen prawf yn y maes Enw'r Maen Prawf (Criterion Name) [2]. Gallwch osod gwerth pwynt y maen prawf drwy deipio yn y maes Pwyntiau (Points) [3].
I gadw'r maen prawf, cliciwch y botwm Iawn (OK) [4]. I ddileu'r maen prawf yn gyfan gwbl, cliciwch y botwm Dileu (Delete) [5].
I ychwanegu sgorau maen prawf ychwanegol, cliciwch y ddolen Mewnosod (Insert) [6].
Nodyn: Os na allwch chi olygu meini prawf ar gyfer eich deilliant, mae eich sefydliad wedi galluogi graddfeydd meistroli ar draws y cyfrif.
Gosod Meistrolaeth a Dull Cyfrifo

Gallwch osod gwerth pwynt y feistrolaeth yn y maes Meistrolaeth yn (Mastery at) [1]. Mae’r maes hwn yn dangos nifer y pwyntiau y mae’n rhaid eu hennill ar gyfer meistrolaeth yn ôl y sgorau maen prawf.
Yn y gwymplen Dull Cyfrifo (Calculation Method) [2], dewiswch y dull cyfrifo ar gyfer y deilliant. Yn ddiofyn, mae deilliannau newydd yn cael eu cyfrifo ar sail Cyfartaledd Sy'n Rhoi Mwy o Bwyslais ar Waith Diweddar yn rhyngwyneb Canvas.
Cliciwch y botwm Cadw (Save) [3].
Nodyn: Os na allwch chi olygu dulliau cyfrifo ar gyfer eich deilliant, mae eich sefydliad wedi galluogi dulliau cyfrifo deilliannau ar draws y cyfrif.