Sut ydw i’n defnyddio’r Canvas App Center mewn cyfrif?
Drwy’r Ganolfan Apiau, gallwch gael gafael ar adnoddau dysgu pwerus sy’n hawdd eu hintegreiddio mewn i gyfrif Canvas neu gwrs Canvas. Yn y Ganolfan Apiau, gallwch nodi pa apiau allanol fydd yn integreiddio gyda’ch cyfrif Canvas. Mae adnoddau sydd ar gael ar lefel y cyfrif hefyd ar gael i bob cwrs yn y cyfrif neu isgyfrif.
Agor Cyfrif

Cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [2], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].
Agor Gosodiadau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cyfrif, cliciwch y ddolen Gosodiadau (Settings).
Agor Apiau

Cliciwch y tab Apiau (Apps).
Gweld y Ganolfan Apiau

Mae’r Ganolfan Apiau yn dangos pob ap sydd ar gael yn eich cyfrif [1]. Hefyd, gallwch hidlo yn ôl y rhai wedi’u gosod [2] a’r rhai heb eu gosod [3], neu ddefnyddio’r maes chwilio i ddod o hyd i ap penodol [4].
Gweld Ap

I weld disgrifiad byr o ap, mae angen hofran dros yr ap. I weld yr holl fanylion, cliciwch yr ap.
Gweld Manylion Ap

Ar y dudalen manylion, gallwch weld disgrifiad o’r ap [1]. Pan fyddwch chi’n barod i osod yr ap gyda’r manylion adnabod cywir, gallwch ychwanegu’r ap fel adnodd ar gyfer eich cwrs [2].
Nodyn: Dydy’r Canvas App Center ddim wastad yn cynnwys yr holl wybodaeth am ap. Efallai y byddwch chi am ymweld â’r Edu App Center i gael y manylion llawn am ap allanol rydych chi am ei ffurfweddu.
Rheoli Rhestr Apiau

I reoli eich rhestr o gyfeiriadau e-bost wedi’u caniatáu gyda’r Edu App Center yn Canvas, cliciwch y botwm Rheoli Rhestr Apiau (Manage App List). Mae’r tocyn mynediad yn cysoni’r rhestr Apiau Allanol ar lefel y cyfrif ac ar lefel y cwrs er mwyn dangos dim ond apiau wedi’u caniatáu o’r Edu App Center, sydd wedi’u creu ar gyfer y sefydliad.
Gweld Ffurfweddiadau Ap

I weld apiau a ffurfweddiadau sy’n bodoli’n barod yn eich cwrs, cliciwch y botwm Gweld Ffurfweddiadau Ap (View App Configurations).
Rheoli Apiau

I weld ffurfweddiadau ap allanol, cliciwch eicon Gosodiadau (Settings) yr ap [1]. I olygu’r ap, cliciwch y ddolen Golygu (Edit) [2]. I weld lleoliadau ar gyfer yr ap, cliciwch y ddolen Lleoliadau (Placements) [3]. I ddileu’r ap, cliciwch y ddolen Dileu (Delete) [4].
I ychwanegu ap allanol at far offer y Golygydd Cynnwys Cyfoethog newydd , cliciwch y togl Ychwanegu at far offer y Glygydd Cynnwys Cyfoethog (Add to RCE toolbar) [5].
Nodyn: Ar lefel y cwrs, mae unrhyw ap sy’n cael ei ychwanegu ar lefel y cyfrif yn dangos eicon clo, a does dim modd ei olygu.
Gweld Lleoliadau Ap

Mae Lleoliadau Ap yn dangos lle yn Canvas y mae modd defnyddio eich ap.
Mae’r lleoliad Dewis Aseiniad (Assignment Selection) [1] yn ychwanegu’r ap at y rhestr o opsiynau LTI wrth greu aseiniadau LTI.
Mae’r lleoliad Botwm Golygydd (Editor Button) [2] yn ychwanegu dolen at yr adnodd hwn yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog (Rich Content Editor).
Mae’r lleoliad Dewisydd Dolen (Link Selector) [3] yn ychwanegu’r ap at y rhestr o eitemau modiwl. Bydd dolen yn syth i’r LTI yn cael ei hychwanegu at y dudalen Modiwlau (Modules).
Mae’r lleoliad Crwydro (Navigation) [4] yn ychwanegu dolen ar gyfer y cais i’r Ddewislen Crwydro Defnyddiwr, Cwrs neu Gyfrif.
Nodyn: Mae’n bosib y byddwch chi’n gweld neges Dim Lleoliadau wedi’u Galluogi (No Placements Enabled). Mae’r neges hon yn nodi nad oes gan yr ap unrhyw leoliadau penodol o fewn Canvas. Ond, bydd yr ap yn dal i weithio’n iawn.