Canvas Guides (cy)Canllaw Gweinyddwyr Canvas DeilliannauSut ydw i’n defnyddio’r dudalen deilliannau mewn cyfrif?

Sut ydw i’n defnyddio’r dudalen deilliannau mewn cyfrif?

Defnyddir Deilliannau i olrhain meistrolaeth mewn cyfrif neu gwrs. Gallwch greu a rheoli deilliannau, creu grwpiau deilliant, mewngludo deilliannau a rheoli cyfarwyddiadau sgorio ar gyfer cyfrif ar y dudalen deilliannau.

Nodyn: Mae rheoli cyfarwyddiadau sgorio o’r dudalen Deilliannau yn opsiwn nodwedd. Pan fo’r opsiwn nodwedd Cyfarwyddiadau Sgorio yn y ddewislen Crwydro'r Cwrs wedi’i alluogi mewn cyfrif, dydy’r dudalen Deilliannau ddim yn dangos botwm Rheoli Cyfarwyddiadau Sgorio. Bydd yr opsiwn nodwedd Cyfarwyddiadau Sgorio yn y ddewislen Crwydro'r Cwrs yn weithredol ar bob cyfrif o fis Gorffennaf 2020.

Agor Cyfrif

Agor Cyfrif

Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].

Agor Deilliannau

Agor Deilliannau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cyfrif, cliciwch y ddolen Deilliannau (Outcomes).

Gweld Deilliannau

Ar y dudalen deilliannau, gallwch greu deilliant newydd (create a new outcome) [1], creu grŵp deilliannau newydd (create a new outcome group) [2], a dod o hyd i ddeilliant (find an outcome) [3].

Os oes gennych chi hawl i wneud hynny, gallwch fewngludo deilliant (import an outcome) [4].

I weld manylion grŵp deilliant, cliciwch enw’r grŵp deilliant [5].

I weld deilliant, cliciwch enw’r deilliant [6].

Gweld Deilliant

I weld deilliant, cliciwch enw’r deilliant [1].

Gallwch weld disgrifiad o'r deilliant [2], graddau maen prawf [3], y pwyntiau sydd eu hangen er mwyn meistroli [4], y dull cyfrifo [5], ac eglurhad am y dull cyfrifo [6].

I weld eitemau sy’n gydnaws â’r deilliant ac arteffactau deilliant, cliciwch ar deitl y deilliant [7].

Rheoli Deilliant a Grŵp Deilliant

Rheoli Deilliant

Gallwch symud [1],golygu [2], neu ddileu [3] deilliant neu grŵp deilliant.

Nodyn: Ni allwch ddileu deilliant sydd wedi cael ei ddefnyddio i asesu myfyrwyr.