Beth ydy'r Blwch Derbyn?
Mae'r Blwch Derbyn yn adnodd negeseuon a ddefnyddir i gyfathrebu â chwrs, grŵp, myfyriwr unigol neu grŵp o fyfyrwyr. Gallwch ddefnyddio'r Blwch Derbyn i gyfathrebu â phobl eraill yn eich cwrs unrhyw bryd.
Pryd fyddwn i'n defnyddio'r Blwch Derbyn?
Mae modd defnyddio’r Blwch Derbyn i wneud y canlynol:
- Anfon neges at rywun yn eich cwrs neu eich grŵp
- Anfon neges atoch chi eich hun (bydd yn ymddangos yn eich ffolder Wedi Anfon)
- Ateb negeseuon gan bobl eraill yn eich cwrs
- Hidlo sgyrsiau yn ôl cwrs neu fath
- Gweld ac ateb sylwadau ar aseiniadau sydd wedi eu cyflwyno
Gallwch addasu eich dewisiadau hysbysiadau i gael negeseuon gan ddefnyddio sianeli allanol.