Beth yw’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog Newydd?
Mae’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog Newydd yn ddiweddariad i Olygydd Cynnwys Cyfoethog blaenorol Canvas. Mae’n cynnig bar offer mwy greddfol a chryno sy’n wedi’i grwpio yn ôl eiconau a rhyngweithiadau cyffredin.
Mae gweinyddwyr yn gallu galluogi'r Golygydd Cynnwys Cyfoethog Newydd gan ddefnyddio’r opsiwn nodwedd Gwelliannau RCE. Mae’r opsiwn nodwedd hwn yn gallu cael ei osod i Ymlaen, Caniatáu, neu Wedi Diffodd. Os bydd yn cael ei osod i Ymlaen, bydd y Golygydd Cynnwys Cyfoethog Newydd wedi’i alluogi ar bob cwrs yn y cyfrif. Os bydd yn cael ei osod i Caniatáu, bydd athrawon yn gallu rheoli opsiwn nodwedd o lefel y cwrs. Os bydd yn cael ei osod i Wedi Diffodd, y Golygydd Cynnwys Cyfoethog Clasurol fydd yr unig opsiwn ar gael ar bob cwrs yn y cyfrif.
Mewn fersiwn yn y dyfodol, bydd y Golygydd Cynnwys Cyfoethog Clasurol yn cael ei derfynu a bydd y Golygydd Cynnwys Cyfoethog Newydd yn cael ei alluogi ar gyfer pob sefydliad.
Gweld y Golygydd Cynnwys Cyfoethog Newydd
Mae’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog Newydd yn cynnwys yr ardal cynnwys, y bar dewislen, a’r bar offer.
Yn yr ardal cynnwys, gallwch chi ychwanegu a gweld rhagolwg o gynnwys y dudalen [1].
Yn y bar dewislen, gallwch chi ddefnyddio opsiynau’r ddewislen i fformatio cynnwys y dudalen [2].
Yn y bar offer, gallwch chi fformatio testun [3]; mewnosod dolenni, delweddau, cyfryngau a dogfennau [4];agor adnoddau allanol [5]; fformatio paragraffau [6]; clirio fformatio [7]; ychwanegu tablau [8]; mewnosod hafaliad [9]; a phlannu cyfryngau [10]. Pan fo cynnwys mewn ffenestr porwr yn ddigon hir i fod angen bar sgrolio, bydd y bar offer wedi’i osod ar frig ffenestr y porwr.
Pa Nodweddion Canvas sy’n Defnyddio’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog Newydd?
Mae’r nodweddion Canvas canlynol yn defnyddio’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog Newydd:
- Cyhoeddiadau
- Aseiniadau
- Trafodaethau
- Tudalennau
- Cwisiau
- Maes Llafur
Agor Bysellau Hwylus
Gall defnyddwyr Canvas ddefnyddio'r nodwedd llywio â bysellfwrdd yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog Newydd. I weld y ddewislen Bysellau Hwylus, cliciwch yr eicon Bysellfwrdd neu bwyso’r bysellau Shift+Marc Cwestiwn ar yr un pryd. Hefyd, gallwch chi agor y ddewislen drwy bwyso’r bysellau Alt+F8 (Bysellfwrdd PC) neu’r bysellau Option+FN+F8 (Bysellfwrdd Mac) ar yr un pryd.
Gweld Dewislen Bysellau Hwylus

Mae modd defnyddio’r bysellau hwylus canlynol yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog:
- I agor y dialog Bysellau Hwylus, pwyswch Alt+F8 (ar fysellfwrdd cyfrifiadur) neu Option+Fn+F8 (ar fysellfwrdd Mac)
- I ganolbwyntio ar y bar offer opsiynau elfen, pwyswch Ctrl+F9 (ar fysellfwrdd cyfrifiadur) neu Cmd+F9 (ar fysellfwrdd Mac)
- I ganolbwyntio ar far dewislen y golygydd, pwyswch Alt+F9 (ar fysellfwrdd cyfrifiadur) neu Option+Fn+F9 (ar fysellfwrdd Mac)
- I agor bar offer y golygydd, pwyswch Alt+F10 (ar fysellfwrdd cyfrifiadur) neu Option+Fn+F10 (ar fysellfwrdd Mac)
- I gau dewislen neu ddeialog a dychwelyd i ardal y golygydd, pwyswch y fysell Esc
- I lywio trwy ddewislen neu far offer, pwyswch y fysell Tab
- Gallwch chi hefyd ddefnyddio bysellau hwylus eraill