Canvas Guides (cy)Nodweddion Sylfaenol Canvas Nodweddion SymudolSut ydw i’n cael mynediad at Canvas gyda phorwr symudol ar fy nyfais iOS?

Sut ydw i’n cael mynediad at Canvas gyda phorwr symudol ar fy nyfais iOS?

Gallwch gael mynediad at Canvas o unrhyw borwr ar eich dyfais iOS. Ond, er mwyn sicrhau bod defnyddwyr yn cael y profiad gorau, dylech edrych ar Canvas drwy'r ap symudol ar gyfer dyfeisiau iOS.

Does dim modd i Canvas ddelio â phorwyr symudol, ac efallai na fydd nodweddion yn gweithio yn ôl y disgwyl wrth gymharu â defnyddio Canvas mewn porwr bwrdd gwaith cwbl gydnaws. Dim ond pan fydd gweithred yn yr ap yn cysylltu’n uniongyrchol â’r porwr, fel pan fydd myfyrwyr yn gwneud rhai mathau penodol o gwisiau, y bydd modd defnyddio tudalennau Canvas mewn porwr symudol. Os nad oes modd defnyddio tudalennau yn yr ap ar hyn o bryd, fel Cynadleddau a Chydweithrediadau, does dim modd eu defnyddio yn y porwr chwaith.

Hefyd, dim ond rhywfaint o gymorth y mae Canvas yn ei gynnig ar gyfer porwyr symudol cynhenid ar ddyfeisiau tabled. I gael y manylion, darllenwch y canllawiau cymorth cyfyngedig ar gyfer porwyr symudol.

Ar ben hynny, fydd eitemau cynnwys sydd angen Flash ddim yn gweithio oni bai fod eich porwr yn gallu delio â Flash. Nid yw Safari, Chrome, na’r rhan fwyaf o borwyr am ddim yn gallu delio â Flash. Ond, os ydych chi am ddefnyddio Flash, efallai y byddwch chi am roi cynnig ar borwyr 360, Photon, Skyfire, iSwifter, neu Puffin, ymhlith porwyr eraill sy’n gallu delio â Flash ar iOS.

Agor Porwr Symudol

Agor Porwr Symudol

Tarwch yr eicon ar gyfer y porwr symudol o’ch dewis.

Rhoi URL Canvas

Rhoi URL Canvas

Yn y maes URL, rhowch URL Canvas eich sefydliad.

Mewngofnodi i Canvas

Mewngofnodi i Canvas

Rhowch eich manylion mewngofnodi ar gyfer Canvas yn y meysydd e-bost [1] a chyfrinair [2]. Tarwch y botwm Mewngofnodi (Log In) [3].

Gweld Porwr Symudol

Gweld Porwr Symudol

Gallwch weld Canvas yn eich porwr symudol.